Cartrefi Cymreig am golli £459 y flwyddyn

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi ymteb i ffygrau newydd gan yr Institute for Fiscal Studies yn dangos y bydd pob cartref Cymreig yn colli tua £459 y flwyddyn yn sgil newidiadau Llywodraeth y DU i dreth a budd-daliadau.

Rhybuddiodd Mr Edwards fod toriadau enfawr ar y ffordd yn Adolygiad Gwariant y Canghellor ddydd Mercher a bod angen ail-feddwl y cynlluniau economaidd hyn ar unwaith.

Cyfeiriodd at y ffaith fod yr ymchwil newydd yn dangos y bydd newidiadau budd-dal yn effeithio cartrefi tlawd oed-gweithio gyda phlant yn fwy na neb, a bod cartrefi mewn gwaith ar gyflogau isel yn debygol o golli yr un faith o chartrefi incwm-isel di-waith - ffaith sy'n profi mai celwydd yw honiad y Toriaid i fod ar ochr pobl mewn cyflogaeth.

Dywedodd Jonathan Edwards AS:

"Mae'r ffigyrau newydd hyn yn dangos fod arbrawf llymder y Canghellor wedi bod yn fethiant llwyr.

"Drwy ddewis gwneud newidiadau treth a budd-dal fydd yn lleihau incwm pob cartref Cymreig o tua £459 bob blwyddyn - cyfanswm o £600miliwn - mae'r Llywodraeth Geidwadol hon yn bygwth gyrru miloedd o deuluoedd i dlodi.

"Yr hyn sy'n peri pryder fwy na dim yw'r disgwyl i'r cartrefi tlotaf gyda phlant ddioddef fwy na neb. Mae tlodi plant eisoes yn broblem ddifrifol yng Nghymru - mae cynlluniau'r Canghellor yn bygwth condemnio cenhedlaeth gyfan i gyflogau isel a diffyg cyfleon.

"Mae Plaid Cymru'n poeni'n fawr am y cynlluniau i dorri credydau treth i bobl mewn gwaith - taliadau sy'n rhwyd ddiogelwch i bron i 250,000 o gartrefi yng Nghymru a 384,000 o blant.

"Mae'r IFS yn rhyvbuddio y bydd cartrefi incwm-isel mewn gwaith yn colli tua'r un faint a chartrefi di-waith. Mae hyn yn dangos mai celwydd noeth yw honiad y Toriaid eu bod ar ochr teuluoedd mewn cyflogaeth.

"Tra bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i leihau'r gyllideb lles, nid drwy gosbi'r tlawd y dylid gwneud hyn. Byddai capiau rhent - fel sy'n bodoli yn Efrog Newydd a'r Almaen - yn rheoli costau ac yn atal landlordiaid rhag ecsbloetio tenantiaid.

"Rydym hefyd eisiau gweld Cyflog Byw go iawn - nid ymgais ail-frandio sinigaidd y Canghellor yn ffurf y Cyflog Byw Cenedlaethol. Byddai hyn yn sicrhau codiad cyflog i 250,000 o weithwyr Cymru, arbed £1.5bn i'r pwrs cyhoeddus bob blwyddyn, a sicrhau fod gan bobl fwy o arian yn eu pocedi i wario yn eu heconomiau lleol.

"Yn y pen draw, mae cwestiwn difrifol i'r Blaid Lafur yng Nghymru fan hyn. Os ydynt yn gwrthwynebu polisiau'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i'r fath raddau, pam eu bod yn gwrthwynebu datganoli pwerau lles a ffisgal arwyddocaol i Gymru?"

DIWEDD


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.