Uwch Pwyllgor Cymreig

Darllenwch neu wyliwch cyfraniad Jonathan yn yr Uwch Pwyllgor Cymreig heddiw.


Jonathan Edwards

Mae’n anrhydedd enfawr i wasanaethu dan eich arweinyddiaeth chi, Mr Owen, yn enwedig yn siarad, am y tro cyntaf, yn iaith y nefoedd. Rwyf yn gobeithio y bydd yr egwyddor yma yn cael ei ymestyn i Bwyllgorau eraill y Tŷ yma—er enghraifft, y Pwyllgor Materion Cymreig dan arweinyddiaeth yr Aelod anrhydeddus dros Fynwy.

Rydym yn cyfarfod i drafod Cyllideb enbyd o siomedig. Roedd dadansoddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a ddaeth yr un adeg â’r Gyllideb, yn wirioneddol ddiflas, gyda rhagolygon wedi eu hisraddio ar gyfer buddsoddi gan fusnes, cynhyrchedd a thwf economaidd—a hyn am yr ail Gyllideb yn olynol.

Mae’n glir bod yr athroniaeth o gywasgu ariannol ymledol—expansionary fiscal contraction—a ddilynwyd gan y Trysorlys ers 2010 wedi methu yn llwyr. Holl bwynt llymder a thorri yn ôl ar fuddsoddi cyhoeddus oedd y dylsai fod wedi arwain at gynnydd enfawr mewn menter a buddosddi preifat.

Ynghyd â’r toriadau mewn buddsoddiad seilwaith, y gwrthwyneb sydd wedi digwydd, fel y gwnaethom ni rybuddio dro ar ôl tro—a hyn oll gyda’i gilydd yn arwain at lefel cynhyrchedd cronig. Yn wir, lefelau cynhyrchedd cronig y wladwriaeth Brydeinig oedd prif stori y Gyllideb.

Y canlyniad yn y pen draw yw bod y Trysorlys wedi colli ei dargedau dyled gan filltiroedd. Roedd hyn i fod dan reolaeth erbyn 2015—bwriedid iddo fod yn brosiect bum mlynedd—ond mae’n edrych fel petai cywasgu ariannol pellach am barhau tan ddiwedd y ddegawd nesaf. Ni fydd haneswyr economaidd y dyfodol yn garedig iawn i’r Llywodraeth Brydeinig.

Rydym yn gwynebu cenhedlaeth goll o ran safonau byw, gyda’r wasgfa fwyaf ers rhyfeoloedd Napoleon yn debyg o barhau tan o leiaf 2025, yn ôl y Resolution Foundation. Mae’r sefyllfa yma wedi cael ei greu, wrth gwrs, gan y cwymp mewn sterling.

Simon Hoare

Is the hon. Gentleman aware that manufacturing output and exports are at their highest for a decade?

Jonathan Edwards

The export boom that would be expected from a 20% devaluation in sterling has not occurred. That is the factual reality of the situation. The fact that the currency is not rebounding, despite the British Government apparently outlining what they want from the Brexit negotiations, indicates that the markets are betting against the British Government.

welsh_grand_2.png

Chris Bryant

One of the biggest mistakes that the coalition Government made in 2010 was cutting capital budgets. That meant that we did not have the infrastructure in place that we need for a modern economy. That has hit productivity across the whole country.

Jonathan Edwards

Mae’r Bonheddwr anrhydeddus yn gwneud pwynt cywir iawn a byddaf yn dychwelyd i’r pwyntiau hynny yn hwyrach yn fy araith.

Liz Saville Roberts

A fyddai fy Nghyfaill anrhydeddus yn cydymdeimlo gyda ffermwyr fyddai’n disgwyl gyda’r bunt wan y byddai defaid o faint bach yn gwerthu’n dda ar y cyfandir? Nid dyma’r neges a glywaf gan fy ffermwyr i ym Meirionydd.

Jonathan Edwards

Mae hynny’n wir. Roeddwn yn darllen rhywbeth ddoe bod disgwyl y bydd pris defaid, yn enwedig, a chig yn syrthio’n ddifrifol os mae Cymru’n ffeindio’i hunan y tu allan i’r undeb tollau. Mae’r peryglon ar gyfer y sector amaethyddol, sydd yn ein gwynebu yn y dyfodol agos, yn beryglus iawn. Mae ein arweinydd seneddol yn codi pwynt dilys iawn.

Susan Elan Jones

Rwyf yn cytuno gyda’r Bonheddwr anrhydeddus yn llwyr wrth iddo sôn am yr argyfwng ym myd ffermio, ond ydy e’n meddwl hefyd ein bod yn sôn nid am ffermio’n unig ond hefyd am yr economi wledig gyfan ar ôl Brexit? Mae hynny yn drychinebus, i fod yn onest.

Jonathan Edwards

Mae’r Foneddiges anrhydeddus yn codi pwynt hollol sylfaenol. Mae amaeth yn ganolog i’r economi wledig. Os yw amaeth yn dioddef, bydd sectorau eraill yn dioddef, megis twristiaeth a phob math o sectorau. Gallen i fynd i fewn i araeth hir iawn am beth sydd angen gwneud i amddiffyn ein sector amaethyddol, ond dwi’n credu byddaf yn mynd ychydig y tu allan i gwmpas y Gyllideb. Rwyf wir yn credu bod Brexit yn bwynt mor ganolog y dylai’r Uwch Bwyllgor yma gwrdd eto yn fuan iawn i drafod polisi’r Llywodraeth. Credaf mai hwn, o bell ffordd, yw’r prif her sy’n ein gwynebu.

The Chair

Mae’r Llywodraeth wedi clywed y cais. Cariwch ymlaen os gwelwch yn dda.

Jonathan Edwards

I ddychwelyd i’r Gyllideb, mae’r Deyrnas Gyfunol—y wladwriaeth Brydeinig—wedi disgyn o’r pedwerydd i’r chweched safle yn nhabl economaidd y byd. Mae wedi colli’r raddfa credyd A driphlyg a dyma’r economi sydd bellach yn perfformio waethaf yn y G7. Mae’r eurozone—sy’n cael ei ddifenwi mor aml yn y lle yma—yn tyfu ar raddfa y gall economi Prydain ond freuddwydio amdani. Bu i’r economi Gwyddelig yn y trydydd chwarter, flwyddyn ar flwyddyn, dyfu 10.5% y llynedd, lle mae economi Cymru yn gwynebu tyfiant anemig iawn.

Y gwirionedd yw, fel dywedodd yr Aelod anrhydeddus dros y Rhondda, ar ôl y chwalfa yn 2010 ni aethpwyd i’r afael â’r diffygion strwythurol. Beth ddigwyddodd i’r addewid i ymdrin ag anghydraddoldebau cyfoeth sectorol a daearyddol? Dyna beth oedd George Osborne yn siarad amdano dro ar ôl tro yn 2010. Maent yn gronig bellach, ac yn gwaethygu. Does dim rhyfedd nad yw Aelodau’r Meinciau gyferbyn bellach yn sôn am eu slogan y cynllun economaidd hir-dymor: mae’r economi yn gwynebu anawasterau difrifol yn y tymor byr i ganolig.

Wnaf i ddim disgyn i’r demtasiwn o feirniadu Llywodraeth Prydain eto fyth am ddewis y llwybr Brexit mwyaf economaidd niweidiol. Digon yw dweud fod y strategaeth y cytunwyd arni ymlaen llaw o adael y farchnad sengl a’r undeb tollau yn cael ei gofnodi mewn hanes fel gweithred o hunan-niweidio economaidd hollol ddideimlad. Nid dim ond ein masnach gydag Ewrop sy’n cropian at ddibyn trychineb. Os bydd y Deyrnas Gyfunol yn gadael yr undeb tollau, bydd cytundebau masnach newydd yn cael eu trafod gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn hytrach na’r Undeb Ewropeaidd. O ystyried dibyniaeth anghymesur y Ddeyrnas Gyfunol ar wasanaethau ariannol a phŵer lobi Dinas Llundain, mae gwir bosibilrwydd yr aberthir buddiannau diwydiant gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth Cymru er mwyn cael triniaeth mwy ffafriol i fuddiannau Dinas Llundain.

Trade negotiations are a bargaining process, a negotiation between two sides. There is no doubt in my mind, looking at the personnel in the Department for International Trade, that their priority in these negotiations will be ensuring maximum access for the London financial sector to the markets of other countries. What will they want? They will want access to our food sector, of course. That will be the obvious trade-off.

A prime example of that is what happened with Chile. There is a European Union trade deal in place at the moment, and despite our protestations that leaving the customs union would result in those third countries wanting to renegotiate their arrangement with the UK, what did the British Government say? “No, it’ll be all the same; it’ll be the status quo, no problem. Nothing will change.” What did Chile want? It wanted enhanced access to our food markets. That is a foretaste of what is facing key sectors of the Welsh economy in Brexit Britannia.

Fel y gosodwyd ym mhapur diweddar Llywodraeth Cymru ar gytundebau masnach, llawer o ardaloedd tlotaf Cymru yw’r rhai sy’n dibynnu fwyaf naill ai ar weithgynhyrchu neu’r diwydiant amaethyddol—ardaloedd sydd debycaf o golli eu gwarchodaeth wrth i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ffarwelio â hwy wrth chwilio am gytundebau masnach.

As was set out in the Welsh Government’s recent paper on trade deals, many of the poorest areas in Wales are the most dependent on either manufacturing or the agricultural industry—areas prime for the UK Government to negotiate away their protections in search of trade deals.

I must make the point that the Welsh Government’s statement on trade yesterday was deeply disappointing, with the First Minister refusing to ensure that the Welsh Government would have a full say in what trade deals were signed in future. The reality that Wales will face as a country is that Wallonia, a region of Belgium, will have greater say over European Union trade deals than Wales will have within the British state over future UK trade deals—

The Chair

Order. I think the hon. Gentleman has got a bit ahead of himself and thinks he has been given the second debate on Brexit and the European Union. We need to stick to the Budget.

Geraint Davies

rose—

The Chair

I am sure that the hon. Member for Swansea West is going to intervene on the Budget.

Geraint Davies

On the Budget’s implications for agricultural trade, is the hon. Member for Carmarthen East and Dinefwr aware that the World Trade Organisation struck down and penalised the EU when it said it would not allow hormone-impregnated beef into the EU? Still, the EU has resisted hormone-impregnated beef. Does he not think that, if we stand alone against the United States and it wants to impose hormone-impregnated beef on Welsh consumers, with the WTO behind it, we will have to like it or lump it?

Jonathan Edwards

The hon. Gentleman makes a valid point. The hon. Member for Caerphilly and I were in the United States a few years ago, and we had a very interesting discussion with the food lobby there. I guarantee that it carries a lot of weight, and that is a clear indication of some of the problems we will face in future.

I shall return to the Budget.

Mewn polisi ariannol y mae’r perygl arall. Mae polisi ariannol hynod lac gan y Banc Canolog wedi cynnal yr economi ers 2010, a bydd oes yr arian rhad yn diflannu’n raddol wrth i gyfraddau llog gychwyn ar eu taith tuag at normaleiddio.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth twf economaidd i ddibynnu fwyfwy ar wariant gan ddefnyddwyr fel canran o GDP. Bydd methiant i ail-gydbwyso oddi wrth economi a gynhelir gan ddyled cartrefi yn rhwystr sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.

Mae dirwasgiadau yn dueddol o ddod bob degawd, sy’n golygu, naw mlynedd wedi chwalfa ariannol fawr 2008 ein bod yn nes at ddiwedd y cylch na’i gychwyn. Nid yw’r methiant i neidio’n ôl yn sydyn o’r chwalfa fawr ac i ail-gydbwyso yn sectoraidd a daearyddol, na dibyniaeth yr economi ar beiriant cynnal bywyd polisi arianyddol yn argoeli’n dda at y dyfodol.

O ystyried graddfa’r her, nid yw’r Mesur Cyllid yn addas. Cyn ymdrin â rhai o gymalau’r Mesur hwn, carwn ganolbwyntio ar rai o’r darpariaethau sydd, ysywaeth, ar goll.

welsh_grand_3.png

Mae model economaidd y Deyrnas Gyfunol a ddilynwyd ers degawdau gan holl bleidiau sefydliad San Steffan wedi ei seilio ar hyrwyddo gweithgarwch a chyfoeth yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Dylai’r anghydraddoldebau daearyddol o ran cyfoeth fod yn destun cywilydd i wleidyddion San Steffan. Mae naw o’r deg rhanbarth tlotaf yng ngogledd Ewrop yn y wladwriaeth Brydeinig yn ogystal â’r un cyfoethocaf. Yn anffodus, wrth gwrs, mae gorllewin a gogledd Cymru ymysg y tlotaf. Dylai’r Trysorlys fod yn ceisio ymdrin â’r record gywilyddus hon, ac eto does dim yn y mesur cyllid hwn fydd o ddifrif yn mynd i’r afael â’r heriau o’n blaenau.

Efallai mai un o ganlyniadau Brexit fydd y bydd cwmnïau ariannol Dinas Llundain yn adleoli i Baris, Frankfurt a Dulyn. O ystyried hynny, dylai Llywodraeth Prydain ymateb drwy ganolbwyntio ar sectorau economaidd eraill, yn enwedig gweithgynhyrchu. Dylai hyn arwain at symud y pwsylais ymaith o dde-ddwyrain Lloegr i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau.

Yn anad dim, dylai Cymru gael y grym cyllidol i lunio ein heconomi ein hunain. Mae’n warthus fod gan yr Alban a Gogledd Iwerddon setliad cyllidol a threthiannol llawer gryfach na Chymru. Oherywdd hyn, bydd economi Cymru dan anfantais sylweddol. Dydw i methu deall pam nad yw gwleidyddion o’r pleidiau Unoliaethol a bleidleisiodd o blaid rhoi mwy o bwerau i’r Alban a Gogledd Iwerddon yn barod i ddarparu ar gyfer ein cenedl ni ein hunain.

Hyd yn oed os ydym yn rhoi i’r neilltu yr anghydraddoldebau cyfansoddiadol, mae’r sefyllfa yn golygu fod Llywodraeth Cymru yn llai abl i ymyrryd yn ein heconomi. Os mai Brexit caled fydd hi, dylid datganoli portffolio cyfan o drethi, gan gynnwys treth teithwyr awyr, treth ar werth a threth gorfforaeth.

Dylai buddsoddi mewn seilwaith gael ei wasgaru’n fwy cyfartal ar draws y wladwriaeth Brydeinig.

Chris Bryant

We had a vote last week on what we will do about the Palace of Westminster, where lots of people were anxious about us spending so much money in London. Is there not a really important thing we could do for every region of the United Kingdom? After Brexit, we will not have the skills in this country to complete the work on one of our biggest infrastructure projects, so should we not set up a parliamentary apprenticeship scheme so that people can gain those skills in Wales, with every constituency in Wales having someone working on the project here?

Jonathan Edwards

Mae’r Bonheddwr anrhydeddus yn codi pwynt dilys. Ces i ddim y cyfle i wneud y pwynt yma yn ystod y ddadl, ond yn bersonnol byddwn i wedi moyn symud y Senedd allan o Lundain. Rydw i’n credu byddai hynny wedi bod yn symbol o’r angen i ddatganoli’n economaidd y Wladwriaeth Brydeinig. O ystyried bod y penderfyniad bellach wedi cael ei wneud—rwy’n llongyfarch y Bonheddwr anrhydeddus ar ennill ar ei welliant—dylem nawr fanteisio ar y cyfle i sicrhau bod y buddsoddiad hynny yn cael ei wasgaru ledled y Wladwriaeth Brydeinig. Rwy’n credu bod yna job wirioneddol i’w wneud ar hynny, ac rwy’n edrych i’r Bonheddwr anrhydeddus i gynnig arweiniad, o ystyried mai fe sydd wedi arwain y ddadl i aros fan hyn—dyna job fach iddo fe dros y blynyddoedd nesaf.

Liz Saville Roberts

Ar destun yr ardoll brentisiaethau, onid yw’n amser i ni gael mwy o eglurdeb ynglyn â chwmnïau gyda’u prif swyddfeydd tu allan i Gymru a gyda gweithwyr o Gymru, a’r arian sydd yn cael ei drosglwyddo o’r Trysorlys fan hyn i Gaerdydd? Yn enwedig, mae’r ardoll o 0.5% yn cael ei chodi ar gyflogres pedwar Heddlu Cymru, ond nid yw hynny o ddewis Llywodraeth Cymru ac nid ydyw’n cael ei rhoi tuag at hyfforddiant yr heddlu.

Jonathan Edwards

Mae hynny’n bwynt hollol deg o ran prentisiaethau plismona. Yn sicr, bydd Aelodau ein plaid ni yn ei godi yn y ddadl ar Lawr y Tŷ prynhawn yma. Y cwestiwn sylfaenol yw: pam y dylid gwario arian trethdalwyr Cymru ar brosiectau yn Lloegr tra bod Llywodraeth Prydain yn gwrthod buddsoddi mewn prosiectau Cymreig ac mewn gwirionedd yn torri addewidion megis trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe? Rydym ni wedi clywed lot yn barod am y pwnc hynny yn ystod y ddadl.

Os yw Llywodraeth Prydain eisiau codi cynhyrchedd mewn ardaloedd daearyddol sydd yn perfformio’n wael, rhaid iddynt ailgyfeirio buddsoddiad i’r ardaloedd hynny yn hytrach na lluchio popeth at Lundain. Mae pawb bellach yn cytuno bod buddsoddiad estynedig, tymor hir mewn seilwaith yn un o ragofynion llwyddiant economaidd. Os edrychwn ar fuddsoddiad o’r fath dros y degawdau aeth heibio, yr hyn a welwn yw cyfran anghymesur o fuddsoddiad o’r fath yn mynd i Lundain a de-ddwyrain Lloegr. Gallwn edrych ar HS1, lein y Jiwbilî, lein Victoria, Crossrail 1, Crossrail 2, yr M25 a HS2. Ni fu buddsoddiad cyffelyb yn unrhyw wlad na rhanbarth arall o’r Deyrnas Gyfunol. Pam? Oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys agwedd Lundain-ganolog y pleidiau Unoliaethol. Gall hefyd fod oherwydd y modelau economaidd a ddefnyddir wrth werthuso buddsoddiadau o’r fath.

O ystyried y swyddi sydd wedi eu canoli yn Llundain, mae’r elw tymor byr ar bob punt a fuddsoddir mewn seilwaith yn debygol o fod yn uwch yno na mewn rhannau eraill o’r wladwriaeth Brydeinig. Mae hyn yn ei dro yn arwain at sbiral lle mae symiau cynyddol o fuddsoddiad trafnidiaeth yn mynd i Lundain, ac yn eu tro mae’r rhanbarthau tlotaf yn mynd a’r sbiral tuag at i lawr. Mae yma wers inni yng nghyd-destun Cymru. Fel dywedodd fy Nghyfaill anrhydeddus dros Geredigion, mae’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedi’i anelu’n fwyfwy at Gaerdydd a’r de-ddwyrain yn hytrach na chael ei wasgaru ar draws ein gwlad.

Yn 2015-16, yr oedd gwariant cyhoeddus ar drafnidiaeth yn £973 y pen yn Llundain o gymharu â £444 yng Nghymru. Petai lefel y gwariant yng Nghymru yr un fath ag yn Llundain, buasem yn derbyn £1.6 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn i’w fuddsoddi. Mae’r anghydraddoldebau cyfoeth mor ddifrifol yn y wladwriaeth Brydeinig fel y dylid anfon swyddogion y Trysorlys i’r Almaen i ddysgu gan yr Almaenwyr sut y gwnaethant ymdrin ag anghydraddoldebau cyfoeth daearyddol yn dilyn cwymp wal Berlin.

Essentially, Germany made a strategic decision to deal with the wealth inequalities in the reunified Germany, which was based on operating aids and tax incentives for the poorer regions, and the deliberate redirection of foreign direct investment into the poorer parts of the state.

Yn niffyg hynny, rhowch inni yng Nghymru yr arfau i fwrw ymlaen â’r dasg o adeiladu ein gwlad ein hunain, oherwydd dengys hanes nad yw aros am Lywodraethau San Steffan—o ba bynnag liw—i gyflawni pethau ar gyfer Cymru yn debyg o ddelio â’n problemau. Mae Cymru wedi dioddef nid yn unig o ddiffyg sylw a buddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ond o flerwch llawer Llywodraeth Lafur yng Nghymru a’u hanallu i gyflawni. Mae eu hymdrech ddiweddaraf i greu strategaeth economaidd yn rhyfeddol am ei bod heb unrhyw ddangosyddion perfformiad allweddol i fod yn ganllaw i’r sawl sydd i fod i weithredu’r strategaeth ac i alluogi’r gweddill ohonom i fesur pa mor llwyddiannus yw’r strategaeth.

Roedd y Gyllideb yn wan iawn. Ystyriwn y gwyliau treth stamp. Dywedodd Pwyllgor Dethol y Trysorlys, Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb a’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd polisi’r Llywodraeth o roi gwyliau treth stamp, y buont mor uchel eu cloch yn ei gylch, yn gwthio prisiau tai i fyny o ryw 0.3%, gyda’r rhan fwyaf o’r cynnydd yn digwydd eleni. Yn y Gyllideb, neilltuwyd £3 biliwn yn ychwanegol i gynllunio am Brexit. Felly yn hytrach na £350 miliwn yr wythnos i’r gwasanaeth iechyd, yr ydym yn gwario yn agos i £58 miliwn yr wythnos ar fiwrocratiaid y wladwriaeth Brydeinig—ac nid ydynt hwy, hyd yn oed, fel petaent yn rhoi’r atebion mae’r Llywodraeth eisiau eu clywed i’r cwestiynau nad oeddent eisiau eu gofyn.

Er iddynt gynnig rhyw godiad pitw o £2.8 biliwn i’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr dros y tair blynedd nesaf, mae hyn yn edrych fel rhywbeth rhy fach yn rhy hwyr, gan ystyried y storïau yn y wasg dros y misoedd diwethaf. Yng nghanol argyfwng y gaeaf, gwelwn effeithiau tan gyllido cronig yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Mae’n amlwg na allwn ymddiried yn y Ceidwadwyr i ofalu am y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Fodd bynnag, dyw record Llafur yng Nghymru ddim llawer gwell. Fel gyda’r rhan fwyaf o bethau, maent yn siarad digon o eiriau teg yn San Steffan, ond lle maent mewn grym, mae’r stori yn wahanol iawn.

Mae’r newidiadau i’r credyd cynhwysol—universal credit—a chynlluniau i wneud i ffwrdd â’r cyfnod cychwynnol o saith diwrnod i hawlwyr pan na fuasent wedi bod yn gymwys i gael budd-daliadau, a lleihau’r cyfnod aros presennol o chwech wythnos i’r rhan fwyaf o hawlwyr i bump wythnos, i’w groesawu. Ond mae hyn yn gyfystyr, mewn gwirionedd, a rhoi plaster ar goes sydd wedi torri. Mae’r ffordd ddi-drefn y cyflwynodd y Llywodraeth y credyd cynhwysol, a’r modd y gweinyddir cynlluniau lles yn ehangach, yn gywilyddus. Mae ymwneud â chwmnïau preifat mewn lles yn anfoesol ac yn anghyfrifol. Ni ddylai cwmnïau fel Capita elwa o drueni pobl eraill. Rydym yn croesawu’r dreth ar werthiannau a gynhyrchir yn y Deyrnas Gyfunol a fydd yn effeithio ar fusnesau digidol mawr fel Apple a Google. Ond unwaith eto, fodd bynnag, gwyddom fod y Torïaid yn gwrthwynebu llawer o newid yn strwythur ein sustem dreth, sydd ar hyn o bryd â thyllau dianc sy’n caniatáu osgoi gwerth £13 biliwn mewn trethi, a pheidio â thalu mwy fyth. Doedd dim ymrwymiad penodol i gynyddu cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus, y rhewyd eu cyflogau—ac a gapiwyd wedyn ar 1%—ers 2010. Diolch i chwyddiant, mae hyn yn golygu fod cyflogau nyrsys wedi eu torri mewn gwirionedd o 14%. Mae Cymru yn dal i dderbyn llai y pen na Llundain. Yn anffodus, mae’r blaid Lafur yn methu gwneud yn iawn am y cam yng Nghymru, er fod ganddynt y pwerau i wneud hyn, fel mae’r Llywodraeth SNP wedi llwyddo i wneud yn yr Alban.

Mae Cymru’n dal yn derbyn llai y pen na Llundain. Yma mae rhai o gymunedau tlotaf Ewrop ac mae toriadau enfawr mewn cyllid o ganlyniad i Brexit. Mae’n her sylweddol i sectorau allweddol ein economi. Ac eto, mae’r Canghellor yn dewis defnyddio ystadegau fyddai’n fwy addas i un o fysiau mawr coch yr Ysgrifennydd Tramor i honni y bydd cynnydd o £1.2 biliwn yng nghyllid cyhoeddus Cymru o Gyllideb yr hydref. Roedd yn ddiddorol iawn yn ystod cyflwyniad yr Ysgrifennydd Gwladol: wnaeth e ddim defnyddio’r ffigwr hynny yn benodol yn ei araith, gan ei fod yn gwybod, fel dywedodd arweinydd Aelodau Seneddol Cymreig y blaid Lafur yma heddiw, bod dros hanner yr arian hwnnw yn fenthyciadau—neu fiscal transactions—y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru dalu yn ôl.

Doedd dim sôn am drydaneiddio’r rheilfyrdd, sydd wedi ei ganslo er yr addewid a roddwyd; dim sôn am y morlyn llanw ym Mae Abertawe, a dim golwg ohono yn y Gyllideb; a chyllid i wasanaethau datganoledig rhyw £750 miliwn yn is nag ar ddechrau’r ddegawd. Dyna record y Llywodraeth Brydeinig pan mae’n dod at Gymru. Mae stori’r Gyllideb hon yn hollol glir: nid yw San Steffan yn becso am Gymru.

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.