Dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda - Adam Price

Fynegodd Adam Price y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dderbyn ymyrraeth wedi’i thargedu gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y cyn Aelod Seneddol ac ymgeisydd Plaid Cymru i’r Cynulliad Cenedlaethol bod rhai o’r lefelau gweithredu ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda- mewn nifer o arbenigeddau gwahanol- wedi lleihau dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly yn annog ei alwad am weithrediad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Ym mis Mawrth 2014, fe lansiodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru’r Cyd-drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd. Yn sgil y trefniadau yma mae Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru yn cyfarfod dwywaith y flwyddyn i drafod safle cyffredinol pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth GIC.

Ystyrir gwybodaeth a chudd-wybodaeth i gynorthwyo i adnabod unrhyw faterion o fewn y byrddau iechyd. Mae yna fframwaith pedwar cam ar gyfer uwchgyfeiriadau ac ymyrraeth:

  1. Trefniadau Arferol
  2. Monitro Uwch
  3. Ymyrraeth wedi’i Thargedu
  4. Mesurau Arbennig

Ar ddiwedd mis Mawrth 2015 hysbyswyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei fod wedi codi o lefel un (trefniadau arferol) i lefel dau (monitro uwch). Ymhlith y rhesymau dros y newid oedd:

  • Y gallu i gytuno a throsglwyddo ei ymrwymiadau yn erbyn IMTP tair blynedd a gytunwyd er mwyn sicrhau gwasanaethau diogel a chynaliadwy sydd yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth leol;
  • Pryderon yn dilyn adolygiad cenedlaethol gan gydweithwyr ynglŷn â diabetoleg pediatrig; ynghyd â
  • Materion yn deillio o’r adolygiad canser diweddar gan gydweithwyr.

Mewn gohebiaeth gan Gyfarwyddwr Cyffredinol GIG Cymru a hysbysodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore, ynghylch yr ymyriad, nodwyd bod Mr Moore ei hun wedi mynegi pryderon at y Bwrdd Iechyd, ac roedd ef wedi gofyn am godiad yn y lefel.

O’r 10 Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru, yn bresennol mae pump ar drefniadau arferol, pedwar ar fonitro uwch ac un (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) ar fesurau arbennig.

Carmarthen JournalDywedodd Adam Price ei fod wedi dadansoddi cyfres o ddata a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru cyn dod i’r penderfyniad; sef gyda lefelau gweithredu yn lleihau tra bod y bwrdd iechyd eisoes dan statws ‘monitro uwch y dewis gorau byddai rhoi fwy o gefnogaeth i Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Y targed ar gyfer amseroedd aros am driniaeth yw, bod 95% o gleifion yn derbyn triniaeth o fewn 26 wythnos, ac nad oes unrhyw un yn aros yn fwy na 36 wythnos. Defnyddiwyd dau bâr o ddata i ddangos y gweithrediad yn erbyn y targed hwn;

1. Ystadegau sy’n ystyried amser aros y cleifion a derbyniodd triniaeth yn ystod y mis, ynghyd â

2. Ystadegau sy’n ystyried ers pryd mae’r rheiny sydd ar y rhestr ar ddiwedd y mis wedi bod yn aros.

O’r rheiny derbyniodd triniaeth ym mis Tachwedd 2015 (sy’n berthnasol i’r ffigyrau diweddaraf ar gael) fe arhosodd 3,316 o gleifion neu 76% yn llai na 26 wythnos yn ôl targed Llywodraeth Cymru i weld 95% yn derbyn triniaeth o fewn y cyfnod hwnnw. Mae’r gweithrediad yn ddirywiad o’r 82.7% blwyddyn yn flaenorol. Mae’r bwrdd iechyd wedi methu i gyrraedd y targed o 95% am bedair blynedd.

Er iddynt gychwyn ar y statws ‘monitro uwch’ fe welwyd Hywel Dda'r gweithrediad Atgyfeiriad am Driniaeth waethaf o’r holl fyrddau iechyd Cymreig ar gyfer y 10 mis diwethaf olynol.

Yn ystyried rhai arbenigeddau yn ddyfnach, nododd Adam Price bod:

  • Dwbl y canran o gleifion yn Hywel Dda wedi aros dros yr uchafswm o 36 wythnos am eu triniaeth o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Y canran o’r rheiny sy’n aros dros y targed o 26 wythnos ar gyfer llawdriniaeth bediatrig wedi dyblu i 37.3% o gymharu â 16.8% blwyddyn yn ôl. Mae chwarter o gleifion pediatrig yn aros dros yr uchafswm o 36 wythnos.
  • Arhosodd bron traean (32.2%) o gleifion yn fwy na 26 wythnos am driniaeth trawma ac orthopaedeg. Arhosodd bron chwarter dros 36 wythnos.
  • Mae bron yr holl gleifion (99%) sydd yn aros dros y targed 14 wythnos ar gyfer triniaeth clyw (cymorth clyw oedolion) yn byw o fewn Hywel Dda. Nid oedd un claf yn Hywel Dda yn aros dros y targed yma blwyddyn yn ôl.
  • O’r holl gleifion ledled Cymru sydd yn aros dros yr uchafswm o 36 wythnos i gychwyn ar driniaeth feddygol cyffredinol, mae 85.6% ohonynt yn aros o fewn Hywel Dda.
  • Mae 35% o gleifion Hywel Dda sydd angen triniaeth dermatoleg yn aros dros y targed 26 wythnos- codiad o’r 9.2% y llynedd. O’r holl gleifion ledled Cymru sydd yn aros dros uchafswm y targed 36 wythnos i gychwyn ar driniaeth dermatoleg, mae 62.6% ohonynt yn aros o fewn Hywel Dda.
  • Mae 55.3% o holl gleifion mewn oed sydd yn aros dros 14 wythnos i gychwyn ar driniaeth ffisiotherapi yn byw yn Hywel Dda. Mae 39% o gleifion mewn oed yn Ysbyty Glangwili yn aros yn hirach na’r targed.
  • Mae’r bwrdd iechyd wedi methu i gwrdd â’r targed i weld 95% o gleifion sydd newydd ddarganfod bod canser arnynt (trwy’r llwybr cyfeirio achosion brys yr amheuid bod canser arnynt) o fewn 62 dydd am fwy na tair blynedd.

Dywedodd Adam Price:

“Nid wyf yn galw i osod y bwrdd iechyd dan fesurau arbennig eto. Rwy’n awgrymu bod angen gweithredu’n bellach i sicrhau bod gan y bwrdd iechyd ymyriad sy’n targedu’r adrannau sydd islaw’r par. Wrth gwrs mae rhaid i’r ymyriad hwnnw ddod gyda’r adnoddau ychwanegol mae’r bwrdd iechyd yn credu sydd eu hangen- ariannol neu fel arall.

“Dim ond mis diwethaf fe ddywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wrth bwyllgor o Aelodau Cynulliad na fyddai’n mechnïo ein bwrdd iechyd sydd unwaith eto yn edrych fel gorwario ar ei gyllideb- yn syml nid yw safiad y Gweinidog yn ddigon da. Mae ein gwasanaeth iechyd yn rhy werthfawr a’i weithlu yn hollbwysig i’r Weinidog Llafur i olchi ei ddwylo o’r problemau.

“Mae fy meirniadaeth wedi anelu’n deg ar y rheiny sy’n gwneud y penderfyniadau yn y llywodraeth, megis y Gweinidog Iechyd, sydd wedi camreoli’r gwasanaeth iechyd gyda chanlyniadau i’r cleifion sydd bellach yn eglur. Yn bendant nid yw fy ngalwad ar gyfer ymyrraeth bellach yn feirniadaeth o’r staff o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy’n gweithio eu gorau glas dan bwysau- yn wir mae’n alwad i’w cefnogi yn fwy drwy ddarparu’r gwasanaeth o’r ansawdd gorau y byddant eisiau darparu i’r cleifion.

“Mae’r bwrdd iechyd yn gweithredu’n hynod o dda mewn nifer o arbenigeddau. Yn yr un modd mae amseroedd aros yn yr adrannau Damwain ac Argyfwng- er nad ydynt yn arbennig- yn gyson yn well na nifer o ysbytai ar draws Cymru. Ond er mwyn gweld ein bwrdd iechyd yn gweithredu’n arbennig ym mhob adran credaf fod angen symud i’r cam ymyrryd nesaf.

Ychwanegodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards:

“Fe fydd swyddogion y bwrdd iechyd eisoes yn ymwybodol o fy mhryderon o wybod fy mod yn ysgrifennu atynt bron yn wythnosol i wneud cynrychioliadau ar ran etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ynglŷn â’u trafferthion presennol neu flaenorol gyda’r bwrdd iechyd.

“Rydym eisiau i drigolion gorllewin Cymru gael y gofal iechyd gorau a’r amseroedd aros lleiaf yn y wlad. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i’r staff a’r gwasanaeth derbyn y gefnogaeth addas.

“Byddwn yn gofyn am gyfarfod gyda’r bwrdd iechyd i’n galluogi i drafod lefelau gweithredu ac i gael dealltwriaeth well o’r hyn y gallwn wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi’r amser, adnoddau ac arbenigedd iawn yn ein gwasanaeth iechyd lleol.”

DIWEDD


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.