Gall Cymru gael Cronfa Gyfoeth Gymreig gwerth biliynau er mwyn buddsoddi mewn seilwaith a thyfu’r economi, wrth i Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards barháu efo’i ymgyrch.
Yn gynharach eleni, fe lwyddodd yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr i gael ymrwymiad gan Lywodraeth San Steffan i dderbyn ceisiadau gan awdurdodau lleol Cymreig i gronni buddsoddiadau cronfeydd pensiynau mewn i Gronfeydd Cyfoeth Cymreig, er mwyn sicrhau bod pensiynau gweithwyr Cymru yn cael eu buddsoddi yng Nghymru.
Cafodd y galwad gwreiddiol ei wneud mewn ymateb i gyhoeddiad polisi gan y cyn-Ganghellor, George Osborne, i gronni buddsoddiadau pensiynau mewn i ‘Gronfeydd Cyfoeth’ gydag o leiaf £25 biliwn mewn asedau. Mae gwerth asedau cynghorau Cymru tua £13 biliwn – ffigwr sylweddol ond dim ond hanner ffigwr y Canghellor, ac felly roedd buddsoddiadau pensiwn gweithwyr Cymru mewn peryg o gael eu cronni gyda rhanbarth o Loegr, ac felly mewn peryg o gael eu buddsoddi y tu allan i Gymru.
Gwnaeth Mr Edwards holi Ysgrifennydd Gwladol Cymru Llywodraeth San Steffan heddiw, i ofyn iddo gael cadarnhád gan ei gyd-Weinidogion y bydd ceisiadau am Gronfeydd Cyfoeth Cymreig yn cael eu derbyn, yn dilyn cyhoeddiad gan 8 awdurdod lleol yng Nghymru eu bod wedi gwneud cais.
Rhybuddiodd yr Aelod Seneddol ei fodyn debygol y bydd buddsoddiadau gweithwyr Cymru yn cael eu gwario ar draws y ffîn os yw buddsoddiadau pensiynau Cymreig yn cael eu cronni gyda buddsoddiadau yn Lloegr. Gan nad yw’r polisi yn berthnasol i’r Alban nac i Ogledd Iwerddon, dwedodd Mr Edwards fod na “achos clir i sicrhau bod asedau Cymreig yn cael eu cronni mewn i Gronfeydd Cymreig er mwyn buddsoddi mewn seilwaith ar draws Cymru i dyfu economi’r wlad.”
Fe ddwedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards MP:
“Fel mae Plaid Cymru wedi dweud yn gyson, does dim gwrthwynebiad gennym mewn egwyddor i gronni buddsoddiadau pensiwn. Rydym wedi gwneud galwadau tebyg ein hunain yn y gorffennol i ddenu buddsoddiadau preifat ar gyfer datblygiad seilwaith Cymru.
“Ond mae gen i bryderon ynghylch y syniad o fuddsoddiadau pensiwn yn cael eu cronni mewn i gronfeydd mawr “Lloegr a Chymru” a’u buddsoddi mewn seilwaith tu allan i Gymru, yn enwedig pan mae Cymru mewn cymaint o angen am fuddsoddiad. Dyma pam yr oedd mor bwysig i dderbyn ceisiadau gan awdurdodau lleol Cymreig i gronni eu buddsoddiadau pensiwn i greu Cronfeydd Cyfoeth Cymreig a rwyf yn falch bod Llywodraeth San Steffan wedi newid eu polisi i dderbyn ceisiadau o’r fath.
“Nawr bod ceisiadau yn cael eu gwneud, mae’n allweddol bod Llywodraeth San Steffan yn cadw at eu gair a chymeradwyo’r ceisiadau hyn.
“Mae asedau buddsoddiadau pensiwn Cymreig werth tua £13 biliwn. Byddai defnyddio dim ond ffracsiwn o’r arian yma yn gyfle aruthrol i ddigolledu am y blynyddoedd o ddiffyg buddsoddiad yng Nghymru ac i greu twf economaidd go iawn ledled y wlad.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter