AS lleol yn gwrthwynebu dileu cap ar daliadau dysgu ym mhrifysgolion Seisnig

Yr wythnos hon yn y Senedd fe wrthododd Plaid Cymru a Jonathan Edwards AS y Mesur Addysg Uwch a fydd yn dileu cap ar daliadau dysgu prifysgolion.

Mi fydd y Mesur, a derbyniwyd gan fwyafrif o ASau ddydd Mawrth, yn caniatáu i brifysgolion gynyddu daliadau dysgu yn ôl chwyddiant.

Yn ogystal â gwrthwynebu’r cynnig, galwodd yr AS lleol Mr Edwards am Gyngor Ymchwil newydd i Gymru i hyrwyddo ymchwil a datblygu ym mhrifysgolion Cymreig.

Mae’r mesur hefyd yn cynnwys darpariaethau sydd yn caniatáu i brifysgolion osod capiau ar daliadau ar lefelau gwahanol, sydd yn seiliedig ar wobrau Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu'r darparwr. Hefyd mae’r mesur yn gosod llawr cyffredinol i’r sector, ac yn sicrhau bod y cap yn parhau dan reolaeth y Senedd, sydd felly yn caniatáu i godi’r cap.

Mae’r Mesur Addysg Uwch hefyd yn corffori’r saith cyngor ymchwil yn gorff newydd- Ymchwil ac Arloesi'r DU- sef dull newydd a honnwyd i symleiddio’r dyraniad o nawdd i brifysgolion. Dywedodd Jonathan Edwards AS bod hyn yn methu mynd i’r afael ag anghyfiawnderau hanesyddol ynghylch nawdd a dyrennir i Gymru, sydd ond wedi derbyn 2% o gymorth nawdd ar gyfartaledd, pan yn ddemograffig fe ddylai’r nawdd fod tua 5% o gyfanswm dyraniad y nawdd.

Mae Plaid Cymru wedi galw yn gyson i greu Cyngor Ymchwil Cymru er mwyn dyrannu nawdd i brifysgolion Cymru yn deg, a hefyd i ymdrin ag ymchwil Cymreig fel cyfanwaith er mwyn adnabod yr adrannau i ddatblygu yng Nghymru yn effeithiol yng ngoleuni blaenoriaethau Cymreig.

Yn ymateb i’r mesur Addysg Uwch, dywedodd Jonathan Edwards AS:

“Roedd penderfyniad gwarthus y blaid Lafur i gyflwyno taliadau dysgu ac yna i ganiatáu taliadau ychwanegol yn un o’r prif resymau i mi ddod yn ynghlwm yng ngwleidyddiaeth. Nawr mae penderfyniad y llywodraeth Geidwadol i godi taliadau dysgu yn ôl chwyddiant yn ddull clogyn a chyllell i wir gynyddu taliadau a wynebir gan ddisgyblion sydd eisiau mynychu’r brifysgol.

“At hynny, gwrthododd y Mesur hwn i gydnabod yr angen am ddull gwahanol a hir dymor ynghylch nawdd ymchwil yng Nghymru. Mae Plaid Cymru a minnau wedi galw yn gyson i greu cyngor ymchwil Cymreig i adnabod, datblygu ac i wella ansawdd a chyfeiriad ymchwil yng Nghymru.

“Mae addysg yn chwarae rôl hanfodol yn y datblygiad o gymdeithas lwyddiannus a’i heconomi. Mae’r Mesur nid yn unig yn gosod premiwm ar hawliau dinasyddion i addysg, ond mae’n gwrthod y gallu i Gymru datblygu rhaglen ymchwil sy’n gyfeiriedig at Gymru i hyrwyddo adfywiad a thyfiant economaidd yng Nghymru."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.