Cefnogwch Ysbyty Treforys ar gyfer y Ganolfan Trawma Difrifol’ gwleidyddion Plaid yn annog y byrddau iechyd lleol

ambulance.jpg

Mae gwleidyddion Plaid Cymru ar draws De Orllewin Cymru wedi annog y byrddau iechyd lleol i gefnogi Ysbyty Treforys yn ei hymgyrch i leoli’r Canolfan Trawma Difrifol yno.

Mae gwleidyddion Sir Gaerfyrddin Jonathan Edwards AS ac Adam Price AC yn pryderu na fydd cleifion gorllewin Cymru yn cael cydraddoldeb mynediad i wasanaethau ysbyty arbenigol wrth i GIG Cymru gynnig lleoli Canolfan Trawma Difrifol yng Nghaerdydd yn lle Abertawe.
Mi fydd chwe bwrdd iechyd, gan gynnwys Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda yn cwrdd ddydd Iau (29ain o Fawrth) er mwyn penderfynu p’un ai ydynt yn cefnogi darganfyddiadau Fforwm Arweinyddiaeth Cydweithrediaeth GIG Cymru (sydd yn cynnwys Cadeiryddion a Phrif Weithredwyr y Byrddau Iechyd) sydd wedi cefnogi sefydlu Canolfan Trawma Difrifol yng Nghaerdydd.
Disgrifir trawma difrifol anafiadau difrifol ac yn aml anafiadau lluosog lle mae yna bosibilrwydd cryf o farwolaeth neu anabledd.  Efallai y byddant yn cynnwys anafiadau difrifol i’r pen, brest, abdomen ac i’r esgyrn o ganlyniad i ddamweiniau, chwaraeon neu drais.
Trawma difrifol yw’r prif achos o farwolaeth i bobl dan 45 oed ac mae’n achos mawr o anafiadau gwanychol hir dymor.  Achoswyd dros hanner o drawma difrifol gan ddamweiniau ffordd.
Mae Meddyg Teulu Abertawe a chyd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru, Dr Dai Lloyd yn credu, o wybod ei bwysigrwydd strategol, y dylai Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Iechyd gwneud y penderfyniad, ac fe ddylai cynrychiolwyr etholedig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gael cyfle i drafod a phleidleisio ar y mater.  Mae wedi annog y byrddau iechyd lleol i beidio â chefnogi’r cymeradwyaeth o Gaerdydd.
Dywedodd Jonathan Edwards AS:
“Fel rydym eisoes wedi dweud, rydym o ran egwyddor yn cefnogi’r Canolfan Trawma Difrifol er mwyn darparu’r triniaethau fwyaf arbenigol, gyda’r clinigwyr fwyaf arbenigol, mewn un lle dydd a nos.
“Mewn byd delfrydol byddai’n cael ei leoli yn Sir Gaerfyrddin, ond y dewis a gyflwynwyd gan GIG Cymru yw naill ai Abertawe neu Gaerdydd.  Rydym yn pryderu na fydd cleifion gorllewin Cymru yn cael cydraddoldeb mynediad i wasanaethau ysbyty arbenigol petai’r ganolfan yn mynd i Gaerdydd.
“Ers hynny mae Fforwm Cadeiryddion a Phrif Weithredwyr y Byrddau Iechyd wedi cefnogi Caerdydd fel lleoliad y Canolfan Trawma Difrifol.  Mae rhaid i mi ddweud fy mod wedi siomi ac wedi synnu’n fawr gan benderfyniad y fforwm hwn.
“Yn anffodus mae’r cymunedau mae Adam a minnau yn eu cynrychioli yn dyst i gyfradd uwch o ddamweiniau ffordd ar heolydd gwledig a lled-gwledig, yn ogystal â damweiniau yn deillio o amaethyddiaeth a gweithgareddau, sydd yn aml yn gysylltiedig â thwristiaeth.  Gwnaiff synnwyr felly i leoli’r canolfan trawma difrifol yn agosach at leoliadau’r digwyddiadau, yn hytrach na rhoi fwy o bwysau ar wasanaeth yr ambiwlans awyr.
“Cyn cyfarfod y Bwrdd Iechyd ddydd Iau, rwyf wedi annog cynrychiolwyr ar Fwrdd Hywel Dda i gefnogi Treforys a chadw gwasanaethau yn agosach at orllewin Cymru.  Yn wir byddai’n synod mawr pe byddai cynrychiolwyr Hywel Dda Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn dewis cefnogi gwasanaethau trawma difrifol yng Nghaerdydd dros Abertawe.”
Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad Adam Price:
“Yn ein hymateb i’r ymgynghoriad, fe nododd Jonathan a minnau fod cyflymder y trosglwyddiad i ofal arbenigol yn hanfodol i’r rheiny sydd yn dioddef o anafiadau sydd yn bygwth bywyd.  Rwy’n poeni na fydd trigolion gorllewin Cymru yn cael cydraddoldeb mynediad petai’r gwasanaeth yn cael ei leoli yng Nghaerdydd.
“Drwy gefnogi gwaith ein cydweithiwr, Dr Dai Lloyd AC, credwn fod Ysbyty Treforys, sydd eisoes gyda Chanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig lwyddiannus, yn ymgeisydd arbennig o gryf am Ganolfan Trawma Difrifol.
“Mae eisoes yn gwasanaethu nifer o drigolion gorllewin Cymru gyda thriniaethau arbenigol, ac mae’n bwysig i gynaladwyedd hir dymor y gwasanaethau trawma yn ne orllewin Cymru. 
“Mae rhaid i ni ddod i ben â’r canoli cynyddol o wasanaethau i ffwrdd o’r de orllewin i Gaerdydd, ond i weld y gwasanaethau yn symud eto ar draws y ffin.  Rydym felly yn galw ar Hywel Dda i gefnogi Treforys, ac yn ei dro, cefnogi cleifion dwyrain Cymru.”  
Dywedodd Meddyg Teulu Abertawe a chyd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd:
“Mae’r argymhelliad gan Gydweithrediaeth GIG Cymru yn hynod o siomedig i ninnau sydd o’r farn bod angen gwasanaeth iechyd ar Gymru sydd nid wedi ei drosglwyddo o Gaerdydd yn unig.
“Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi cyflwyno cynnig cryf iawn i leoli’r Canolfan Trawma Difrifol yn Ysbyty Treforys, Abertawe, sydd eisoes gyda Chanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig ar y safle.  Yn fy marn i, mae lleoliad daearyddol Treforys yn hollbwysig- nid yn unig o ran tegwch mynediad, yn enwedig ar gyfer y cleifion yn Ne, Gorllewin a Chanolbarth Cymru, ond hefyd o ran amddiffyn y Gwasanaeth Trawma yng Nghymru rhag unrhyw adolygiadau ledled y DU yn y tymor hir.
“Gan ei fod yn fater strategol hollbwysig, rwyf o’r farn bod rhaid i gynrychiolwyr etholedig yn y Cynulliad Cenedlaethol wneud y penderfyniad. Rwyf felly yn galw ar Fyrddau IechydAbertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda i wneud safiad dros gleifion yn Ne Orllewin Cymru, i lynu wrth eu safbwynt, a chefnogi’r cynnig gwreiddiol a chryf iawn gan Fwrdd Iechyd ABM sef y dylid lleoli’r Ganolfan yn Nhreforys.
“Gadewch i ni fod yn hollol glir- mae dyfodol Ysbyty Treforys fel canolfan rhagoriaeth ranbarthol dan fygythiad.  Dros ddegawd yn ol penderfynodd Llywodraeth Lafur Cymru i symud gwasanaethau niwrolawdriniaeth a niwrolawdriniaeth paediatreg o Ysbyty Treforys i Gaerdydd, a chaiff yr union symudiad ei ddefnyddio i gyfiawnhau sefydlu’r Canolfan Trawma Difrifol yng Nghaerdydd yn lle Abertawe.
“Rydym yn gwybod fod adolygiadau cynt ledled y DU o rai arbenigeddau, megis llawfeddygaeth gardiaidd bediatrig, wedi gweld y colled o wasanaethau oedd wedi eu lleoli yn Abertawe i Gaerdydd ac yna i Fryste.  Y rheswm am hyn oedd ystyriwyd Caerdydd a Bryste yn rhy agos at ei gilydd yn ddaearyddol.  Mae rhaid i GIG Cymru leddfu’r perygl o effaith domino tebyg a dyna pam rwyf o’r farn y dylid Llywodraeth Cymru a’n Cynulliad Cenedlaethol penderfynu yn y pen draw.”

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.