Mae’n amser am dasglu Adnewyddu Trefi, meddai Plaid

Mae’r amser wedi dod am dasglu adnewyddu trefi- dyna’r neges gan Adam Price a Jonathan Edwards AS o Blaid Cymru dros y penwythnos. Dywedodd y ddau fod angen cefnogaeth brys ar drefi Sir Gaerfyrddin i’w trawsffurfio yn ôl i “ganolbwyntiau dirgrynol ein cymunedau fel roeddent arfer bod”.

Dywedodd y cyn AS Mr Price mai tystio i gau busnesau lleol a’r trafodaethau cafodd gyda busnesau wrth ymgyrchu oedd wedi ysbarduno ei alwad.

Canmolodd y cyhoeddiad diweddar gan weinyddiaeth newydd y cyngor sir am Gronfa Menter Wledig gwerth £2 miliwn, ond dywedodd ein bod yn tystio i “newid sylfaenol yn arferion siopa” ac nad oedd y dull o fusnes fel arfer yn ddewis bellach.

Mae’r Cynghorwyr Sir sydd yn cynrychioli ardaloedd gwledig ar draws Sir Gaerfyrddin eisoes yn cwrdd ar nifer o achlysuron drwy’r flwyddyn i drafod yr heriau a wynebir gan gymunedau gwledig. Yr wythnos hon mae Mr Price wedi ysgrifennu at arweinydd y Cyngor Sir i awgrymu agor fforwm i fusnesau lleol a siambrau masnach er mwyn i dasglu gweithredu’n frys.

Towns Renewal

Cefnogwyd y galwad gan yr Aelod Seneddol, Jonathan Edwards. Meddai bod angen i bawb gweithio tuag at gynllun gweithredu cytûn ar gyfer ein trefi. Dywedodd y gall mesurau byrdymor megis taliadau parcio gwneud gwahaniaeth, ond bod angen gweledigaeth hirdymor.

Pwysleisiodd Mr Edwards y polisi trethi busnes a gyhoeddwyd gan Plaid Cymru rhai blynyddoedd yn ôl a fyddai’n codi’r rhiniog treth y mae’r busnesau bach yn talu trethi. Yn bresennol, dim ond busnesau gyda gwerth trethiannol dan £6,000 sydd yn derbyn mwy o ryddhad trethi busnes. Mi fyddai Plaid Cymru yn codi’r rhiniog treth i £10,000 a newid pob rhiniog treth i ymestyn rhyddhad trethi’r busnesau bach i bob busnes gyda gwerth trethiannol dan £15,000. O ganlyniad i hyn na fyddai rhaid i 70,000 o fusnesau Cymru talu trethi busnes o gwbl.

Dywedodd Adam Price, Ymgeisydd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:

“Ar ôl cwrdd â nifer o berchnogion busnes wrth ymgyrchu, credaf fod yr amser wedi dod am dasglu i adnewyddu trefi- nid siop siarad, ond fforwm a fydd yn cysylltu arfau’r cyngor, busnesau a siambrau masnach briodol i gytuno ynglŷn â sut y gallwn ddiogeli ddyfodol ein trefi bach.

“Ymyriad mawr i’n trefi yw’r Cronfa Menter Wledig gwerth £2 miliwn a gyhoeddwyd gan weinyddiaeth newydd y cyngor sir. Mae’n newyddion gwych a fydd heb os yn hwb i nifer o fusnesau.

“Ond yr hyn rydym yn gweld yw newid sylfaenol i arferion siopa. Mae pawb yn gallu siopa ar eu ffonau symudol neu dabled heb orfod gadael y tŷ. Nid yw gwneud pethau yn y dull arferol bellach yn ddewis.

“Yng Nghymru mae un siop allan o saith yn wag. Mae hon yn gyfradd uwch nag yn Lloegr a’r Alban, ac fel yr ydym yn gweld, mae’n bryder difrifol mewn ardaloedd gwledig.

“Ein prif flaenoriaeth dylai fod i atal y dirywiad a chefnogi siopau sydd eisoes yn bod i gadw eu drysau ar agor- mi fydd newidiadau rhyddhad trethi busnesau Plaid Cymru yn hwb sylweddol yn y cyswllt hwn. Yna mae angen i ni ddod i gytundeb o’r camau cytûn y dylwn ymgymryd ag er mwyn diogeli ein trefi a’u trawsffurfio yn ôl i ganolbwyntiau dirgrynol ein cymunedau fel roeddent arfer bod.

“Yr wythnos hon rwyf wedi ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor i ofyn am ystyriaeth brys i’r syniad hwn ac i gael busnesau o gwmpas y bwrdd cyn gynted a phosib.”

Ychwanegodd Jonathan Edwards AS:

“Mae yna becyn o fesurau i’w cymryd yn y tymor byr. Rydym wedi bod yn gwthio am nifer o flynyddoedd i weld newid ynghylch rhiniogau treth busnesau a fyddai’n gweld miloedd o gwmnïoedd bach heb orfod talu trethi busnes o gwbl.

“Dan gynlluniau Plaid Cymru mi fyddai cannoedd o fusnesau yn Sir Gaerfyrddin yn derbyn 100% o ryddhad treth. Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes y pŵer i gyflawni hyn nawr, ond nad ydynt wedi gweithredu gwaetha’r modd.

“Yna wrth gwrs mae angen bod yn greadigol gyda thaliadau parcio a chynnig parcio am ddim. Ond gyda chynghorau ar draws Cymru yn cael eu cyllideb wedi torri gan Lywodraeth Cymru, maen nhw eu hunain angen cefnogaeth ychwanegol i wneud hynny.

“Gyda newid mawr yn y modd rydym yn siopa, mae angen gweledigaeth hir dymor yn ogystal â’r camau byr dymor ar gyfer ein trefi, ac mae tasglu yn cynorthwyo i wneud ein cymunedau a busnesau yn fwy cynaliadwy.

“Fel aelod etholedig, gwnaf bopeth yn fy ngallu i bwyso ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gefnogi’r weledigaeth honno. Ond rwyf yn sicr bod angen i bawb fod ar yr un trywydd os rydym am sicrhau adnewyddiad ein trefi. Mae modd i dasglu fod yn ddull da i gyflawni pethau."

ENDS


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.