Y dadleuon dros adleoli’r Senedd

Heddiw yn The Times Redbox mae Jonathan Edwards wedi cyflwyno’r achos dros adleoli Senedd y DU i ffwrdd o Lundain


Gydag Ystâd y Tŷ’r Cyffredin yn gosod perygl go iawn i’w breswylwyr ac yn suddo i’r Afon Tafwys yn ôl pob sôn, mae Pwyllgor Dethol o ASau ac Arglwyddi yn ystyried y dewisiadau ynghylch y gwaith sydd angen i adnewyddu ac adfer Tŷ’r Cyffredin. Gydag asesiadau o gostau afresymol rhwng £4-7 biliwn, mae rhaid i’r ASau, fel cynrychiolwyr etholedig, gael yr hawl i bleidleisio ar adleoliad y Senedd fel dewis arall i’r triciau o benderfynu o blaid neu yn erbyn y dewis adnewyddu a ffafrir gan y Pwyllgor a enwyd uchod. I’w rhoi mewn cyd-destun, rydym yn siarad am y cyfateb o’r gwariant blynyddol ar wasanaethau iechyd yng Nghymru.

Ar adeg o anghydraddoldeb economaidd-cymdeithasol cynyddol, a ffydd y cyhoedd yn ddemocratiaeth wedi cael ysgytiad, efallai ei fod yn nodweddiadol bod sefydliad San Steffan wedi paratoi yn dra effeithlon i amddiffyn buddiannau ei hun. Adnewyddu ac adfer yw’r unig ddewis ar y bwrdd er gwaethaf y costau syfrdanol. Nid yw adleoliad hyd yn oed wedi ei ystyried. Nid oes fawr o amheuaeth y bydd y cydbwyllgor yn cynnig y dewis lleiaf drud ar eu rhestr wrth gefn- a fyddai’n gweld ASau yn adleoli i Siambr dros dro y tu cefn i’r Adran Iechyd. Datgeliad sicr oedd yr adroddiad a ddaeth i’r fei yn dweud bod Swyddogion wedi gwneud ymholiadau ynglŷn â chenedlaetholi tafarn y Llew Coch er mwyn i ni gael tafarn tra bod y Palas ar gau- efallai dyma’r unig amser byddwn byth yn gweld y Torïaid yn cyflwyno’r achos dros y caffaeliad cyhoeddus o fenter gyhoeddus. Fel y dywedais yn gynt, nid oes neb yn gwneud hunan-les fel gwleidyddion San Steffan.

Pan gafodd £60m ei ddyrannu i adeiladu adeilad godidog y Senedd ym Mae Caerdydd i roi llety i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, roedd bloeddiadau o brotestio gan y Torïaid yn benodol. Ond eto, mae’n ymddangos bod yr un bobl yn hollol fodlon i wario canwaith yn fwy ar Balas San Steffan.

Mae’r cyd-destun yn hollbwysig. Trwy roi beth sydd wir yn cael ei ystyried mewn cyd-destun- adnewyddiad o adeilad adfeiliedig a’i ganolbwynt mewn dinas sydd yn adnabyddus am fod yn rhan o’r broblem yn hytrach na’r ateb, a’r rhaniad gogledd-de peryglus yn y DU. Mae rhaid asesu dyfodol Senedd y DU gyda meddwl agored a thryloywder.

Fe ddylai Refferendwm yr UE fod yn ysgytiad syfrdanol i’r dosbarth gwleidyddol Prydeinig bod yna datgysylltiad dwfn rhwng nifer fawr o’r boblogaeth a byd San Steffan. Roedd yn bleidlais wrth-sefydliadol mewn sawl ffordd- rhefru yn erbyn peiriant San Steffan yn dilyn rhestr hir o sgandalau gwleidyddol truenus. Os bod y dosbarth gwleidyddol Prydeinig yn meddwl bod gwario’r arian yma ar ein gweithle yn mynd i ail-adeiladu’r ffydd yn y broses wleidyddol, rwy’n eu herio i fynd i siarad â’r cymunedau sydd wedi eu siomi yn llwyr gan lywodraethau San Steffan olynol. Gyda naw allan o’r deg rhanbarth tlotaf yng Ngogledd Ewrop yn y DU (Gorllewin Cymru, Cernyw, Dyffryn Dyrham a Tees, Swydd Lincoln, de Swydd Efrog, Swydd Amwythig a Swydd Stafford, Gogledd Iwerddon, Dwyrain Swydd Efrog a Gogledd Swydd Lincoln- yn ogystal â’r cyfoethocaf o bell ffordd (Llundain mewnol) nid yw’n anodd cyflwyno’r achos dros adleoli deddfwyr y tu allan i Lundain am gyfnod hir. Mae ehangu gorwelion bob amser yn beth da i unrhyw wleidydd.

Heb os, mae gweithio yn y Palas yn fraint anferth ac rwyf wedi ei fwynhau yn ddirfawr. Fodd bynnag mae sawl rheswm pam na ddylid caniatáu i ASau gefnogi’r dewis o adleoli’r Senedd.

• Cost cyfalaf o adleoli yn ogystal â’r costau refeniw gormodol i gynnal y Senedd yn Llundain ar draul gwleidyddiaeth
• Datganoli’r Wladwriaeth Brydeinig trwy symud y pŵer gwleidyddol o Lundain
• Ysgogi buddsoddiad cyhoeddus cynyddol y tu allan i Lundain
• Moderneiddio’r Senedd gyda Siambr fwy modern (sedd yr un hyd yn oed) yn ogystal â phleidleisio electronig gyda chyfleusterau gwell a fwy addas i’r ASau a’n staff.
• Ail gychwyn gwleidyddiaeth Brydeinig yn dilyn cyfres o sgandalau gwleidyddol truenus fel roedd rhestr anrhydeddau olaf Prif Weinidog Cameron yn tystio.

Adeiladwyd y stad yn 1840 ar anterth yr Ymerodraeth pan roedd ASau yn llywyddu dros chwarter o’r ddaear. Ni allai Brexit Britannia fod yn fwy gwahanol, gyda’r Wladwriaeth Brydeinig ar ganol marw gydag Annibyniaeth yr Alban yn anochel ac Ailuno Iwerddon byth yn agosach. Hyd yn oed yng Nghymru mae yna arwyddion bod y Ddraig yn mynd i ddihuno o’i chwsg o’r diwedd.

Os fydd Sefydliad San Steffan yn parhau gyda’r weithred hon o anfoesoldeb gwleidyddol- man a man iddo fod ei weithred fawr olaf o hunanfaldod.

Jonathan Edwards AS, Plaid Cymru, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Wedi ei gyhoeddi gyntaf yn The Times Redbox.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.