Achubwch Gorsaf Dân Rhydaman

Mae’r Aelod Seneddol lleol, Jonathan Edwards a’r Aelod Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas yn cefnogi yr ymgyrch sy’n cael ei harwain gan Gynghorwyr lleol Plaid Cymru yn erbyn y cynnig i israddio gorsaf dân Rhydaman o orsaf llawn amser.

Oherwydd toriadau llym llywodraeth Llafur Cymru, mae’r awdurdod tân yn cael ei orfodi i arbed dros £4 miliwn dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r awgrymiadau a gyflwynwyd mis yma i’r Awdurdod tân yn cynnwys cyfres o opsiynau i’r gwasanaeth wneud arbedion. Un o’r opsiynau yma - er nad yw’r penderfyniad wedi ei wneud - yw israddio Gorsaf Dân Rhydaman o orsaf llawn amser i un lle mae dynion tân yn gweithio rhan amser.

Campaign Leaflet


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.