ASau Plaid Cymru yw’r mwyaf gweithredol yn y Senedd

Plaid_Cymru_MPs.jpg

Mae ffigyrau newydd wedi datgelu mai ASau Plaid Cymru oedd yr ASau Cymreig sy’n gweithio'n galetaf yn Senedd San Steffan yn 2016, gan holi mwy o gwestiynau a gwneud mwy o areithiau na’u gwrthwynebwyr Llafur, Torïaidd a Democrataidd Rhyddfrydol.

Siaradodd ASau Plaid Cymru, ar gyfartaledd, 163 gwaith yr un yn 2016, sy’n fwy sylweddol nag ASau Llafur a Thorïaidd , 128 a 119, a’r Democratiaid Rhyddfrydol, 96.

Dengys ffigyrau Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin hefyd fod ASau Plaid Cymru wedi cyflwyno mwy o gwestiynau ysgrifenedig ar gyfartaledd na’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol gyda’i gilydd.

Rhoddodd yr AS lleol Jonathan Edwards yr ail nifer fwyaf o gyfraniadau seneddol allan o’r 40 ASau o Gymru, wrth gyfrannu 215 gwaith, a gyflwynodd 78 o gwestiynau seneddol i Weinidogion Llywodraeth y DU.

Yn ogystal â bod yr ail yng Nghymru, mae gwaith Jonathan Edwards yn ei rhoi o flaen y ddau AS eraill o Sir Gaerfyrddin, wrth i AS Llanelli Nia Griffith o’r Blaid Lafur gyfrannu 68 gwaith i fusnes y senedd, a gyfranodd AS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin, Simon Hart, 58 gwaith.

Roedd y blaid Geidwadol prin o flaen Plaid Cymru ynghylch record pleidleisio, er nad yw ASau Plaid Cymru yn pleidleisio ar ddeddfwriaeth sydd yn amherthnasol i Gymru.

Yn ymateb i’r ffigyrau, meddai Jonathan Edwards AS:

“Mae’r ffigyrau yma yn dangos yn glir bod Plaid Cymru yn gwneud safiad dros Gymru yn erbyn sefydliad San Steffan. Ninnau yw’r ASau Cymreig fwyaf gweithredol o bell ffordd.

“Rydym yn y Senedd i gynrychioli ein hetholwyr ac i dwyn llywodraeth San Steffan i gyfrif. Nid ydym yma i beidio â gwneud dim a derbyn beth bynnag y gwnaiff San Steffan yn ufudd. Byddwn bob amser yn siarad ar ran Cymru ac na fyddwn byth yn pleidleisio am ddim sydd yn erbyn buddion y bobl rydym yn cynrychioli.

“Efallai mai’r Blaid Lafur yw’r ‘gwrthblaid swyddogol’, ond mae’n amlwg mai Plaid Cymru sydd yn darparu’r gwrthwynebiad go iawn i’r llywodraeth Geidwadol adain dde yn San Steffan.

“P’un ai ar faterion o bwysigrwydd cenedlaethol megis Mesur Cymru neu’r diwydiant dur, neu ar faterion mwy lleol megis amaethyddiaeth, rydym yn gyfarwydd iawn â sefyll wrth ochr meinciau Llafur gwag wrth frwydro dros fuddion ein hetholwyr a byddwn yn parhau i wneud hynny.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.