Mae’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards a’r Aelod Cynulliad Adam Price, sydd yn cynrychioli ardal Nant-y-caws a’r ardaloedd cyfagos wedi gwneud sylw ar dor- pib linell olew.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards:
“Tra bod gennym adroddiadau heb eu cadarnhau ynghylch y swm o olew sydd wedi dianc, rwy’n deall ei fod yn llinell gwasgedd uwch sy’n awgrymu bod symiau arwyddocaol o’r hylif hynod o anweddol wedi eu gollwng.
“Mae’n ddigwyddiad hynod o ddifrifol sy’n gofyn am waith adfer di-oed.
“Iechyd y cyhoedd yw’r flaenoriaeth bwysicaf a’r weithred gyntaf dylai fod i rwystro unrhyw ollyngiadau pellach i leihau’r llygriad i’r tir, bywyd gwyllt a’r cwrs dŵr.
“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau caiff pob adnodd angenrheidiol eu darparu i’r asiantaethau perthnasol er mwyn datrys y digwyddiad yma.”
Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad, Adam Price:
“Nid oes unrhyw amheuaeth bod hwn yn ddigwyddiad mawr ac mae angen dewis y ffordd o weithredu i’r radd uchaf sydd ar gael.
“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo pob adnodd i’r gweithrediad ac rwy’n ymofyn am ddatganiad o sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet.
“Rydym yn disgwyl archwiliad trwyadl ynglŷn â’r digwyddiad, ond y flaenoriaeth gyntaf yw diogelwch y trigolion lleol a rhwystro unrhyw lygriad pellach yn yr ardal.
DIWEDD
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter