“Peidiwch â gorfodi fy nghenedl i fod yn wladfa gosb” - Jonathan

penal-colony-header.jpg

Mae cynllun Llywodraeth San Steffan i agor ei ail uwch garchar yng Nghymru yn arwydd pendant o’i bwriad i droi’r genedl yn “wladfa gosb fforddiadwy Lloegr”, yn ôl yr AS lleol Jonathan Edwards.

Heddiw yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ynglŷn â diwygio carcharau galwodd AS Plaid Cymru ar y Llywodraeth Geidwadol i atal ei chynlluniau i adeiladu uwch garchar Port Talbot.  Cyhuddodd Llywodraeth Llafur Cymru o weithio “llaw yn llaw” â’r Torïaid yn Llundain drwy fethu ag atal adeiladwaith y carchar ar dir sy’n eiddo’r llywodraeth.

Adeiladir y safle arfaethedig yn Baglan i gynnal 1,600 o garcharorion, yn ychwanegol at y lle ar gyfer 2,100 o garcharorion yn uwch garchar Berwyn a agorwyd yng Ngogledd Cymru yn gynharach eleni.  Mae hyn yn ffurfio rhan o gynllun Llywodraeth San Steffan i ddiweddaru’r system carchar sydd dan argyfwng ac sy’n fethiant ers sawl blwyddyn.

Mae cynlluniau ar gyfer y carchar wedi eu beirniadu yn fawr ym Mhort Talbot, gyda Jonathan Edwards AS yn cyfeirio at y ddeiseb yn erbyn y carchar a gafodd 9,000 o lofnodion.  Mae’r “uwch garcharau” hefyd wedi eu beirniadu gan y Howard League for Penal Reform a’r Ganolfan dros Gyfiawnder Cymdeithasol, gan rybuddio nad ydynt yn amgylcheddau digonol i hyrwyddo ailsefydliad.

Drwy rybuddio na fydd adeiladu mwy o safleoedd carchar yn datrys y broblem, cyflwynodd Jonathan Edwards AS yr achos dros ailsefydliad, drwy fynegi mai “carcharau bach, mwy trugarog sydd angen ar ein stad carchar.”

Yn siarad yn Siambr Tŷ’r Cyffredin, dywedodd Jonathan Edwards AS:

“Mae Llywodraeth San Steffan yn dilyn strategaeth o adeiladu cyfadeilad carchar ar raddfa ddiwydiannol yn fy nghenedl, wrth osod problemau system carchar adfeiliog Lloegr ar Gymru yn hytrach na ei thrwsio eu hunain.

“Ni chaiff y carchar arfaethedig ym Mhort Talbot ei adeiladu hyd yn oed i gwrdd â gofynion y genedl lle yr adeiladir.  Mae gan CEM Berwyn 800 fwy o lefydd gwag na charcharorion Cymreig ac mi fydd carchar Baglan yn golygu bod modd i Gymru cynnal 2,400 o garcharorion na sydd ganddi mewn gwirionedd.  Mi fydd hyn ond yn elwa’r Llywodraeth Geidwadol.

“Mae rhaid i’r Blaid Lafur gostwng ei phen mewn cywilydd ar ôl i Lywodraeth Cymru rhoi ei bendith i San Steffan osod carchar yng Nghymru sydd ddim ei angen neu eisiau.

“Mae rhaid i San Steffan gydnabod nad oes ganddynt yr awdurdod moesol i orchymyn yr hyn sydd angen ar Gymru.  Mae rhaid bod datganoli carchdai a’r system cyfiawnder troseddol yn flaenoriaeth- er lles y troseddwyr, trethdalwyr a’r cymunedau sydd yn dioddef oherwydd polisïau San Steffan ynghylch uwch carcharau.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.