Gwleidyddion yn croesawu gorchymyn gwahanu BT a Openreach

Mae Jonathan Edwards - un o'r grŵp gwreiddiol o Aelodau Seneddol a gefnogodd mwy o wahanu rhwng BT a’r darparwr band eang Openreach - wedi croesawu dyfarniad heddiw gan reolydd Ofcom bydd rhaid i BT wahanu yn gyfreithiol wrth Openreach.  Mae Adam Price wedi manteisio ar benderfyniad y rheolydd, Ofcom, i orfodi mwy o bellter rhwng BT a’i adran Openreach gan alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried creu cwmni seilwaith digidol mewn perchnogaeth gyhoeddus i Gymru.


Mae’r AS Plaid Cymru wedi ei gyflwyno cwynion i Ofcom, gan godi pryderon bod trigolion yn cael gwasanaeth anghyson, nad ydynt yn cael eu hysbysu'n ddigonol ynghylch diffygion gan eu darparwr gwasanaeth ac mae atgyweirio'r rhwydwaith ffôn mewn ardaloedd gwledig yn cymryd gormod o amser.

Yn dilyn yr adroddiad 'BroadBad' a gyhoeddwyd ym mis Ionawr a ddangosodd bod Etholaeth Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr mewn safle 649 allan o 650 ar gyfer cyflymder band eang, roedd Jonathan Edwards yn un o grŵp o Aelodau Seneddol i alw am fwy o wahanu i roi diwedd ar fonopoli BT ar fand eang.

Wrth groesawu penderfyniad heddiw gan Ofcom, dywedodd Jonathan Edwards AS:

"Gall gwella ein seilwaith digidol a thrafnidiaeth helpu i ail-gydbwyso grym a chyfoeth i ffwrdd o'r de-ddwyrain Lloegr - a hyd yn oed de-ddwyrain Cymru - i genhedloedd a rhanbarthau'r DU ffynnu wrth greu swyddi a chyflogaeth yn lleol.

"Ers cael fy ethol yn 2010 rwyf wedi cyfarfod cannoedd a channoedd o etholwyr sydd wedi cael problemau gyda'u band eang. Mae llinellau ffôn yn cael eu torri i ffwrdd am wythnosau heb atgyweirio; mae’r llinellau yna ddim yn gallu darparu'r cysylltiad rhyngrwyd mwyaf sylfaenol

Rwyf wedi gallu chwarae rhan fach i gael eu llinellau ar waith eto, ond mae’r broblem sylfaenol o isadeiledd gwael yn dal i fodoli.

"Dyw ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin heb weld fawr ddim gwelliant am ddegau o filiynau o bunnoedd a fuddsoddwyd ar fand eang, gyda llawer yn hawlio bod monopoli effeithiol BT ar yr isadeiledd yn anghymhelliad i'r cwmni peidio buddsoddi yn y rhwydwaith.

"Gyda rhannau o Gymru yn symud ymlaen i gyflymder band eang “ultrafast” mae'n hanfodol nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl. Mae’r cyhoeddiad heddiw gan Ofcom yn cydnabod nad yw'r system bresennol yn gweithio. Mae hyn i'w groesawu wrth i'r ymgyrch i gysylltu Sir Gaerfyrddin yn parhau."

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Adam Price wedi manteisio ar benderfyniad y rheolydd, Ofcom, i orfodi mwy o bellter rhwng BT a’i adran Openreach gan alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried creu cwmni seilwaith digidol mewn perchnogaeth gyhoeddus i Gymru.

Cafodd y syniad ei hyrwyddo gyntaf gan Blaid Cymru yn ei maniffesto ar gyfer Etholiad y Cynulliad 2016. Ymrwymodd y blaid i archwilio i “ddatblygu rhwydwaith band-llydan eiddo-cyhoeddus neu gilyddol, cwmni telegyfathrebu a Darparydd Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) tebyg i Euskaltel, sy’n rhannoleiddo i’r Llywodraeth Gwlad y Basg, i fynd i’r afael â chysylltedd wael mewn rhannau o Gymru.”

Awgrymodd awdur y maniffesto, Adam Price AC, greu ‘Openreach Cymreig’ yn ystod sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw, gyda Carwyn Jones yn nodi fod Llywodraeth Cymru yn agored i’r syniad.

Dywedodd Mr Price y gall menter ar-y-cyd gyda’r sector breifat ar sail y model a gafodd ei fabwysiadu gan Lywodraeth Gwlad y Basg sicrhau “nad oes unrhyw gartref neu fusnes yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl wrth i fand-eang cyflym iawn gael ei gyflwyno” gyda’r potensial i bawb gael “band-eang cyflymder ultra o fewn degawd.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Busnes a Chyllid, Adam Price AC:

“Mae cyhoeddiad heddiw gan Ofcom yn ymyriad arwyddocaol ac yn arwydd clir nad yw’r system bresennol yn gweithio.

“Mae’n bryd cyflymu cyfradd hynod araf cyflwyno band-eang cyflym iawn a chreu Openreach Cymreig sy’n medru buddsoddi’n iawn yn seilwaith digidol ein cenedl.

“Gall cyfleoedd ar gyfer cytundeb menter ar-y-cyd 50/50 gyda’r sector preifat – boed gyda Openreach mwy annibynnol neu gyda chwmniau telegyfathrebu eraill megis Google/Alphabet neu Apple – yn debyg i’r hyn sydd wedi ei sefydlu’n barod gan Lywodraeth Gwlad y Basg sicrhau nad oes yr un cartref neu fusnes Cymreig yn cael eu gadael ar ôl wrth i fand-eang cyflym iawn gael ei gyflwyno.

“Yn wir, mae gan gread cwmni band-eang, ISP a thelegyfathrebu cyhoeddus Cymreig y potensial o sicrhau fod gan bawb gysylltiad band-eang cyflymder ultra o fewn degawd.

“Mae’n galonogol fod y Prif Weinidog yn agored i’r syniad hwn. Rydym nawr angen symudiad cyflym gan Lywodraeth Cymru i wireddu hyn.”

Gwrandewch ar Jonathan yn trafod penderfyniad Ofcom heddiw ar BBC Radio Wales:


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.