Anghyfrifol i roi cefnogaeth ddiamod i gynllun anghyhoeddedig y Llywodraeth

AS Jonathan Edwards yn ystyried y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin i roi siec benagored i Lywodraeth y DU ar gyfer ei cynllun Brexit anghyhoeddedig.


Mae’r cytundeb yr wythnos hon rhwng Llafur a’r Torïaid i gefnogi gwelliannau ei gilydd ynghylch Brexit yn drewi o frad eto fyth gan San Steffan.

Ein swyddogaeth fel Aelodau Seneddol yw craffu ar yr hyn mae’r Llywodraeth yn ei ddwyn gerbron. Wrth gefnogi’r gwelliant Torïaidd, a chytuno i danio Erthygl 50 heb ystyried beth fydd cynnwys cynllun y Llywodraeth, mae’r Blaid Lafur wedi esgeuluso ei dyletswydd fel yr ‘wrthblaid swyddogol’ honedig.

Mynnodd y Blaid Lafur yn iawn fod y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun cyn tanio Erthygl 50, ond ar yr un pryd maent wedi rhoi eu cefnogaeth yn ddiamod cyn iddynt hwy, neu unrhyw un ohonom ni, hyd yn oed gweld y cynllun hwnnw, sy’n gwneud eu galwadau nhw yn hollol ddiystyr ac yn ildio unrhyw ddylanwad ar y trafodaethau roedd gan y blaid.

Byddai wedi bod yn anghyfrifol petawn yn esgeuluso fy nyletswyddau fel AS i gefnogi rhywbeth nad ydw i hyd yn oed wedi’i weld. Efallai’n wir, unwaith i’r cynllun gael ei gyhoeddi, byddaf i a fy nghydweithwyr Plaid Cymru yn ei gefnogi, ond byddai ymrwymo i ddatganiad difeddwl o Brexit yn goch, gwyn a glas, yn hollol anghyfrifol.

Yr hyn sydd ei angen yw sicrwydd na fydd ein busnesau yn wynebu costau ychwanegol; y bydd allforion at ein partneriaid masnachu allweddol yn aros yn rhydd o dariffau; ac na fydd pobl gyffredin yn wynebu toriadau i’w cyflogau- dyna sicrwydd economaidd pendant, nid gwleidyddiaeth hunaniaeth ddiystyr.

Y ddyletswydd ar bob gwleidydd etholedig yw sicrhau’r fargen gorau posibl i’r bobl maent yn cynrychioli, ac yn achos gadael yr UE, mae angen i ni gyflawni’r fargen gorau i Gymru.

Rwyf i a fy nghydweithwyr Plaid Cymru wedi bod yn gyson ac yn unedig yn ein galwadau am gadw ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl fel y dewis Brexit gorau i Gymru. Yn gyntaf, oherwydd y manteision helaeth y bydd bod yn aelod o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yn eu dwyn i Gymru yn enwedig oherwydd ein gwarged o £5bn mewn masnachu nwyddau, ac yn ail oherwydd y bydd yn galluogi Cymru i fod yn gymwys am gyllid ar gyfer ymchwil ac arloesid.

Efallai yn bwysicach na’r bleidlais ar roi bod i Erthygl 50 yw’r hyn fydd yn digwydd wedyn - y trafodaethau eu hunain. Ar adeg pan fo’r naratif cyhoeddus yn cael ei gyrru gan y syniad o ‘adennill rheolaeth’, mae’n hanfodol nid yn unig fod Senedd y DG, ond Seneddau cenedlaethol y DG yn cael dweud eu dweud, gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Nid pwrpas y bleidlais yn y Senedd oedd rhwystro ewyllys y bobl. Sut y gallai fod pan fod achos Llys Goruchaf yn cael ei wrando nawr i benderfynu p’un ai fydd Aelodau Seneddol hyd yn oed yn cael pleidleisio ar danio Erthygl 50 a chychwyn y broses Brexit yn ffurfiol?

Rwy’n democrat ac rwy’n parchu canlyniad y refferendwm. Ond nid wyf yn barod i roi siec benagored a chyfle i Lywodraeth y DG gwneud beth bynnag y maent yn dymuno heb unrhyw wybodaeth ar sut y bydd trigolion Sir Gaerfyrddin a Chymru yn cael eu heffeithio.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.