AS yn galw i’r Gwasanaeth Tân derbyn y statws ‘gwasanaeth gwarchodedig’ wrth i doriadau gwerth 10% dod i’r amlwg

JE_-_Fire_Station_Meeting.jpgMae Jonathan Edwards, yr A.S. Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi galw ar y Llywodraeth Gymreig Llafur i benodi’r Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn ‘gwasanaeth gwarchodedig’ er mwyn diogelu’r gwasanaeth rhag toriadau cyllid dinistriol.

Gwnaeth Mr Edwards y galwad yn dilyn ei gyfarfod gonest â Phrif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Mr Chris Davies. Dywedodd Mr Davies wrth yr AS bod yr Awdurdod yn wynebu toriad cyllid o 10% yn y flwyddyn ariannol nesaf petai’r chwe chyngor sir yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn caniatau’r toriadau disgwyliedig i’r gwasanaeth.

Rhybuddiodd Mr Edwards fyddai toriadau mor llym yn arwain at gaead gorsafoedd ar raddfeydd eang ac yn difrodi’r gwasanaeth fel y mae wedi ei gynllunio ar hyn o bryd gyda phryderon anochel ynglŷn ag effeithiolrwydd y gwasanaeth.

Dywedodd Mr Edwards - a wnaeth arwain ymgyrch gyda’i gyd-weithiwr etholaethol Rhodri Glyn Thomas i achub gorsaf dân Rhydaman rhag ei israddio’r llynedd - byddai caniatau statws ‘gwarchodedig’ i’r gwasanaethau tân yn diogelu cyllidebau’r gwasanaethau tân yn nhermau arian, felly’n golygu byddai rhai i’r awdurdodau ond ystyried y pwysau chwyddiannol ar eu cyllidebau. Mi fyddai hyn o hyd yn mynnu toriadau o dros £1 miliwn o bunnau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ond ni fyddai’r gwasanaethau ar flaen y gad yn cael eu hisraddio a ni fyddai gorsafoedd yn cau.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi arbed £6.4 miliwn yn barod rhwng 2005 a 2014.

Mis diwethaf fe wnaeth y Gweinidog Llywodraeth Leol, Lesley Griffith A.C. o’r blaid Lafur, dweud wrth y cynghorau sir y byddant yn wynebu toriad hyd at 4.5 y cant i’w cyllideb y flwyddyn nesaf, ac os cânt eu caniatau mi fyddai’r gwasanaeth dân yn colli oddeutu 10 y cant o’u holl gyllid gweithredol mewn blwyddyn o ganlyniad.

Dywedodd Jonathan Edwards, yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:

“Mae gan yr Awdurdodau Tân dull ariannu unigryw lle maent yn gallu gorchymyn eu cyllid dewisol gan eu hawdurdodau lleol. Er, yn hanesyddol mae’r awdurdod tân wedi derbyn y codiadau cyllid cyfartaledd neu’r gostyngiadau cyfartaledd gan gyllidau pob un o’r 6 cynghorau sir.

“Mae’r Cynghorau Sir yn wynebu toriadau hollol newydd yn barod, ond mae’n peri gofid fod y Llywodraeth Gymreig Llafur yn rhybuddio gallai’r cynghorau wynebu toriad ychwanegol blwyddyn nesaf o 4.5 y cant. Os caiff ei drosglwyddo i’r awdurdod dân, mi fydd yn cyfateb i golled o bron 10 y cant i gyllid blynyddol yr awdurdod. Dywedodd y Prif Swyddog Tân heb flewyn ar ei dafod byddai hyn yn sicr yn effeithio ar wasanaethau ein cymunedau ac yn difrodi’r gwasanaeth fel y mae wedi ei gynllunio ar hyn o bryd.

“Yn y misoedd diwethaf, mae Rhodri Glyn Thomas a minnau wedi arwain ymgyrch y gymuned i ddiogelu gwasanaethau ar flaen y gad yng nghorsafoedd dân Rhydaman a Phontyates. Mae bygythiadau pellach yn anochel oni bai bod rhyw sicrwydd i’r modd y caiff y gwasanaethau eu hariannu. Dyna pam rwyf wedi arwain ymgyrch cenedlaethol wedi’i anelu at annog Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun strategol.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Prif Swyddog Tân newydd am gwrdd â mi ac am amlinellu senario’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. A dweud y gwir yn blaen mae rhai o’r senarios yn ddychrynllyd. Byddai hyd yn oed y canlyniad gorau yn mynnu arbedion sylweddol. Mae yna achos cryf iawn i warchod y gwasanaeth tân yn ariannol er mwyn sicrhau diogelwch ein cymunedau."

 

Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad a llefarydd Cymunedau a Llywodraeth Leol Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas:

“Nid oes modd i’r cynghorau lleol i barhau i lyncu’r toriadau yma, felly rydym yn galw ar y Llywodraeth Gymreig Llafur i roi statws gwarchodedig i’n gwasanaeth tân. Hwn fydd y cam cyntaf i sicrhau diogelwch y cyllidebau yn nhermau arian ac mi fydd yn diogelu’r cynghorau sir rhag trosglwyddo toriadau i’r gwasanaeth tân.

“Ar hyn o bryd mae’r gwasanaethau dân yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn costio oddeutu £49 y flwyddyn ar gyfer pob person sydd dan eu cyfrifoldeb, neu 13c y dydd. Mi fyddai ychydig dros 1 ceiniog y dydd ar gyfer pob person yn arbed yr holl doriadau i’r gwasanaeth.

“Mae’n amlwg bod yna ddadl i’r Cynghorwyr Sir ynghylch y lefelau o dreth cyngor yn y byr dymor, ond mae modd i’r Llywodraeth Gymreig atal y toriadau drwy gamu i’r bwlch ac amddiffyn ein hawdurdod dân. Fodd bynnag, os bod rhaid i’r cynghorau caniatau’r toriadau cyllid i’r awdurdodau dan, a dweud y lleiaf byddai’n anghyfrifol ac mi fydd yn peryglu’n cymunedau.”

DIWEDD


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.