Pryder gwleidyddion ynghylch canoli gwasanaethau ysbyty arbenigol i Gaerdydd

Mae gwleidyddion Plaid Cymru Jonathan Edwards AS ac Adam Price yn pryderu na fydd gan gleifion gorllewin Cymru cydraddoldeb mynediad i wasanaethau ysbyty arbenigol wrth i GIG Cymru gynnig lleoli Canolfan Trawma Difrifol yng Nghaerdydd yn lle Abertawe.

Disgrifir trawma difrifol anafiadau difrifol ac yn aml anafiadau lluosog lle mae yna bosibilrwydd cryf o farwolaeth neu anabledd.  Efallai y byddant yn cynnwys anafiadau difrifol i’r pen, brest, abdomen ac i’r esgyrn o ganlyniad i ddamweiniau, chwaraeon neu drais.
Trawma difrifol yw’r prif achos o farwolaeth i bobl dan 45 oed ac mae’n achos mawr o anafiadau gwanychol hir dymor.  Achoswyd dros hanner o drawma difrifol gan ddamweiniau ffordd.
Cynhaliwyd ymgynghoriad gan GIG Cymru ynghylch sefydlu Canolfan Trawma Difrifol newydd i wasanaethu trigolion De a Gorllewin Cymru yn ogystal â De Powys.  Y dewis dewisol yw lleoli’r Ganolfan yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, gydag Uned trawma llai yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Dywedodd cynrychiolwyr Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Mr Edwards a Mr Price eu bod yn cytuno â’r egwyddor o sefydlu Canolfan Trawma Difrifol gan ei bod yn cyflawni ystod o wasanaethau hynod o arbenigol dydd a nos, sydd yn golygu bod modd i’r cleifion gyda’r trawma fwyaf difrifol gael triniaethau cymhleth yn gyflymach.  Fodd bynnag maent wedi mynegi eu pryder na fydd cleifion yng ngorllewin Cymru yn cael cydraddoldeb mynediad i’r driniaeth arbenigol pe byddai â’i leoliad yng Nghaerdydd.  
Mae’r gwleidyddion Plaid Cymru wedi ymuno â’r galwad gan eu cydweithiwr, yr Aelod Cynulliad Dr Dai Lloyd, i leoli’r Ganolfan newydd yn Abertawe oherwydd mae’n agosach at leoliad traean o’r holl ddigwyddiadau trawma, a darperir mynediad teg i wasanaethau i bawb ar draws de a gorllewin Cymru.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards:
“Mae Trawma Difrifol yn diffinio’r digwyddiadau fwyaf difrifol, a tra bod ein hysbytai lleol ond yn delio ag un neu ddau ddigwyddiad trawma'r wythnos, mae’r gobaith o oroesi yn cynyddu’n fawr o fewn cyd-destun rhwydwaith trawma.  Rydym felly yn cefnogi’r rhwydwaith o ran egwyddor er mwyn darparu’r triniaethau fwyaf arbenigol, gyda’r clinigwyr fwyaf arbenigol, mewn un lle dydd a nos.
“Ond dengys tystiolaeth gall y 60 munud cyntaf ar ôl trawma fod y gwahaniaeth rhwng byw a marwolaeth.  O wybod bod y dewis rhwng Caerdydd neu Abertawe, mae’n hollbwysig fod cynnig Treforys i gynnal y ganolfan yn llwyddiannus er lles pawb sydd yn byw i’r gorllewin o Abertawe.
“Yn anffodus mae’r cymunedau mae Adam a minnau yn eu cynrychioli yn dyst i gyfradd uwch o ddamweiniau ffordd ar heolydd gwledig a lled-gwledig, yn ogystal â damweiniau yn deillio o amaethyddiaeth a gweithgareddau, sydd yn aml yn gysylltiedig â thwristiaeth.  Gwnaiff synnwyr felly i leoli’r canolfan trawma difrifol yn agosach at leoliadau’r digwyddiadau, yn hytrach na rhoi fwy o bwysau ar wasanaeth yr ambiwlans awyr.
“Mae eisoes gan bob cymuned yng Nghaerdydd ac i ddwyrain y ddinas mynediad i ganolfan trawma difrifol o fewn un awr.  Mae rhaid i’r Llywodraeth Lafur darparu cydraddoldeb mynediad i’r gwasanaethau achub bywyd yma i bobl de a gorllewin Cymru.”
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Adam Price AC:
“I’r cleifion sydd yn dioddef anafiadau sydd yn fygythiad i’w bywydau, mae cyflymder y trosglwyddiad i ofal arbenigol yn hanfodol.  Mae lleoliad Treforys, gyda mynediad da i’r draffordd, yn golygu fod pobl yn ne a gorllewin Cymru o fewn cyfnod yr ‘awr euraid’.
“Pan ystyriwn fod dros draean o’r holl gleifion trawma difrifol yn tarddu o dde orllewin Cymru, fyddai felly yn hollol synhwyrol i leoli’r ganolfan trawma difrifol yn Nhreforys ac yn agosach at y crynhoad uwch o ddigwyddiadau.
“Ond fe ddylwn bryderu am y canoli cyson o wasanaethau i ffwrdd o’r gorllewin gan Lywodraeth Cymru.
“Y datganiad fwyaf gellir ei wneud gan y Llywodraeth Lafur i leddfu pryder pawb yw cefnogi’r cynnig i Ysbyty Treforys gynnal y Ganolfan Trawma Difrifol newydd.”
 
Ychwanegodd Meddyg Teulu Abertawe a chyd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Dr. Dai Lloyd:
“Mae adolygiadau cynt ledled y DU o rai arbenigeddau wedi gweld y colled o wasanaethau oedd wedi eu lleoli yn Abertawe i Gaerdydd ac yna i Fryste oherwydd bod Caerdydd a Bryste mor agos at ei gilydd yn ddaearyddol.
“Mae llawfeddygaeth gardiaidd bediatrig eisoes wedi symud o Dreforys i Gaerdydd, ac yna mewn adolygiad ledled y DU wedi hynny, symudwyd o Gaerdydd i Fryste.
“Yn fwy diweddar, cawsom awgrymiad gan yr Athro Chris Moran fyddai’r Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig lwyddiannus yn Nhreforys wedi ei leoli yn ddelfrydol yng Nghaerdydd.  Gofynna Plaid Cymru pryd mae’r agenda canoli hwn yn gorffen?
“Dim ond drwy gael gwasanaethau trydyddol diddorol y bydd De Orllewin Cymru byth yn gallu denu’r gorau oll o ran staff ac ymchwilwyr meddygol.  Yn wir, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe a’r rhaglen ARCH wedi eu sefydlu ar yr egwyddor o ddatblygu De Orllewin Cymru fel arweinydd o ran arloesiad ac ymchwil iechyd.  Mae rhaid i’r Blaid Lafur cydnabod nad yw Cymru yn gorffen yng Nghaerdydd.  Ni allant ganiatáu i Abertawe a De Orllewin Cymru fod yn weddill.”

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.