Cau banciau yn Llandeilo a Rhydaman yn gwneud tro gwael â thrigolion lleol

local-bank.jpg

Llai na blwyddyn ers i Lloyds gau ei gangen yn Llanymddyfri heddiw fe gyhoeddodd y banc ei fwriad i gau ei gangen rhan amser yn Llandeilo. At hynny mae NatWest wedi cyhoeddi ei fwriad i gau canghennau yn Llandeilo a Rhydaman- penderfyniadau sydd wedi gwylltio’r cynrychiolwyr gwleidyddol.

Cynigir cau cangen Llandeilo, lle mae ffigyrau’r banc ei hunan yn datgan bod 51% o’i gwsmeriaid dros 55 mlwydd oed, ar 23ain o Fedi 2018. Mae’n dilyn cyfres o gau canghennau Lloyds yn ystod 2017 ym Mhorth Tywyn, Abergwaun, Aberdaugleddau, Prifysgol Abertawe a Phontypridd.

Cyhoeddodd NatWest ei fwriad i gau ei gangen yn Rhydaman ar 24ain o Fai 2018 a changen Llandeilo ar 18fed o Fehefin 2018.
Yn gynharach eleni fe arweiniodd Adam Price AC dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol lle gadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ei fod wedi comisiynu gwaith gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ynghylch sefydlu banc cyhoeddus.

Mae’r gwaith wedi ei gwblhau a’i gyhoeddi. Mae Adam Price wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddod a’i chynllun gweithredu yn nes “er mwyn i gymunedau wybod yr hyn mae eu llywodraeth yn gwneud i gyflawni system bancio gymunedol dilys.”

Mae Jonathan Edwards AS wedi gofyn i Brif Weithredwyr Lloyds a NatWest am gyfarfod i drafod y ffordd y mae’r banciau yn cefnu ar gymunedau gwledig.

Cynigiodd y ddau wleidydd Plaid Cymru eu cefnogaeth lawn i staff lleol yn y canghennau.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Adam Price:

“Mae’n groundhog day yng Nghymru wledig wrth i fwy o fanciau mawr penderfynu cefnu ar fwy o gymuned wledig. Dyma dro gwael i drigolion lleol sydd eto yn wynebu’r colled o wasanaeth arall. Mae’r trigolion nid yn unig yn cael eu methu gan y banciau, ond hefyd gan Lywodraethau Cymru a Phrydain sydd yn methu gwneud safiad dros y defnyddwyr. Ni allwn barhau fel hyn.

“Yn gynharach eleni fe sicrheais ymrwymiad gan Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru dros yr Economi y byddai’n comisiynu gwaith ar sefydlu Banc Cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwnnw wedi bod ar ei ddesg ers bron dau fis. Rwyf am weld y cyhoeddiad o gynllun gweithredu er mwyn i gymunedau wybod yr hyn mae eu llywodraeth yn gwneud i gyflawni system bancio gymunedol dilys.

“Wrth i wasanaethau bancio fynd yn fwyfwy anghysbell, gall buddsoddiad busnes a benthyca dirywio. Rydym angen model newydd ar frys, megis y rheiny yn yr Almaen a’r Unol Daleithiau, sydd wedi eu sefydlu yn bwrpasol i gefnogi cymunedau, busnesau lleol a defnyddwyr lleol.

“Mae penderfyniadau banciau masnachol yn anffodus allan o’n rheolaeth ni. Gallwn a byddwn yn ymgyrchu gyda thrigolion lleol, ond nid oes gennym bŵer i orfodi banciau i gadw cangen ar agor. Rwy'n addo, fodd bynnag, y bydd Jonathan Edwards a minnau'n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod model bancio'r dyfodol wedi'i wreiddio yn ein cymunedau."

Ychwanegodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards:

"Mewn gwirionedd, mae Adam a minnau wedi hen flino wrth gynnig sylwadau ar gau banc arall ond i Weinidogion y Llywodraeth yng Nghaerdydd a San Steffan olchi eu dwylo yn ôl pob tebyg o'r pryderon go iawn sydd gan gymunedau ynglŷn â cholli eu gwasanaethau.

"Mae cau banciau yn fater mwy dwys na chwsmeriaid sy'n colli'r gwasanaeth cownter yn y gymuned - yn y bôn mae'n tanseilio seiliau ariannol yr economi leol gyfan. Yn y cyfamser, mae gan Lywodraethwr Banc Lloegr y wyneb i ddweud wrthym yr wythnos hon bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cyflwyno cyfle i godi'r cap ar fonwsau bancwyr!

"Rwyf heddiw wedi ysgrifennu at Brif Weithredwyr Lloyds a NatWest yn gofyn iddynt gwrdd ag Adam a minnau yn bersonol. Rydym am drafod pam mae’r banciau o hyd ac o hyd yn cefnu ar gymunedau gwledig, ac i ddweud wrthynt am yr ymgyrch genedlaethol yr ydym yn ei sefydlu ar gyfer creu Banc Cyhoeddus Cymru i gystadlu â holl fanciau Llundain sydd wedi trin cwsmeriaid â dirmyg. "

“Yn y cyfamser, mae Adam a minnau yn cynnig ein cefnogaeth lawn i’r holl staff yn y canghennau ac rydym am iddynt wybod bod ein drws ar agor ar gyfer unrhyw gymorth y gallwn ddarparu."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.