Colofn Jonathan yn y Carmarthen Journal - S4C

Tra bod nifer o bobl yn llongyfarch Margaret Thatcher ar sefydlu darlledwr yr iaith Gymraeg, S4C, mae’r rhan amlaf o lawer- yn enwedig trigolion lleol- yn iawn i gydnabod ymdrechion arwrol fy rhagflaenydd, Gwynfor Evans.

Ychydig wedi i’r blaid Geidwadol ennill mwyafrif yn etholiad 1979, fe benderfynodd yr Ysgrifennydd Cartref newydd, Mr Whitelaw, yn erbyn pedwaredd sianel Cymraeg, ac fe awgrymodd i rannu’r rhaglenni iaith Gymraeg rhwng y sianelu a oedd eisoes yn bod.

Mae papurau swyddogol o gabinet Llywodraeth y DU yn 1980, a rhyddhawyd yn 2010, yn dangos yn glir sut oedd y bygythiad o streic newyn gan gyn arweinydd Plaid Cymru a’r ‘Aelod dros Gymru’, fel roedd pawb yn ei adnabod yn Nhŷ’r Cyffredin, wedi gorfodi i Phrif Weinidog Thatcher barchu addewid etholiad ei phlaid a chreu sianel Cymraeg. Cafodd y wraig a fyddai byth yn troi ei gorfodi i droi yn ôl gan Gwynfor.

Ymlaen â ni 35 mlynedd yn ddiweddarach ac mae gennym deimlad llethol o deja-vu- ond misoedd ar ôl yr etholiad cyffredinol pan welwyd y blaid Geidwadol y ffurfio llywodraeth fwyafrifiol, mae eu haddewid etholiad ynghylch S4C wedi torri yn barod. Cyn etholiad cyffredinol 2015 mynegodd maniffesto’r blaid Geidwadol y “byddwn yn diogelu cyllid ac annibyniaeth golygyddol S4C.”

Ym mis Hydref 2010 fe ostyngodd y llywodraeth clymblaid Ceidwadol-Dem. Rhyddfrydol y grant ar gyfer S4C- yr unig sianel teledu Cymraeg yn y byd- trwy 94% dros bedair blynedd o £101 miliwn yn 2010/11 i £7 miliwn yn 2014/15.

Mae’r sianel bellach yn derbyn y mwyafrif o’i arian o dâl trwydded y BBC, ond fe welwyd colled o £20miliwn dros y pum mlynedd diwethaf.

Ers etholiad y llynedd mae Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cyhoeddi y bydd yn torri £1.7 miliwn o gyllid y darlledwr o £6.7 miliwn i £5 miliwn erbyn 2019- toriad cyllid gwerth 26% a gafodd ei gadarnhau gan y Weinidog dros Ddiwylliant mewn dadl foreol gynnar yn y Senedd wythnos diwethaf.

Mae hyn nid yn unig yn addewid toredig arall, ond mae’n anfon y neges anghywir at y BBC sydd yn bresennol yn penderfynu ei gyllideb a’i ddyraniad i ddarlledwr yr iaith Gymraeg.

Pa ddadl all y Llywodraeth wneud nawr petai’r BBC yn trosglwyddo toriad yr un mor niweidiol o 26% i’w nawdd? Gyda’r adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn trosglwyddo toriadau ar gyfartaledd o 5% ar draws yr adran, sut y gall gyfiawnhau’r 26% i S4C? Unwaith eto mae dyfodol yr unig sianel frodorol Cymraeg wedi cael ei ystyried yng nghyd-destun lleihad y diffygion ariannol yn hytrach na’i swyddogaeth fel darlledwr. Trwy weithredu yn y dull hwn mae Llywodraeth y DU wedi gadael i’w fwgwd gwympo a dangos sut mae wir yn teimlo am ein sianel.

Fel y dywedwyd yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos diwethaf, diolch i lwyddiant S4C, nid yw’n cyddigwyddiad ein bod nawr yn gweld 50 o gwmnioedd teledu ac animeiddiad yng Nghymru sy’n cynhyrchu tua £1 biliwn ar gyfer economi Cymru. Fe gyfrannodd S4C £117 miliwn i’r economi Cymreig ar ben ei hun. Yng Nghymru caiff 50,000 eu cyflogi yn y diwydiannau creadigol.

Wrth i S4C barhau a’i baratodau ar gyfer ei adleoliad i Gaerfyrddin, mae angen sicrwydd ariannol hir dymor ar y darlledwr i’w galluogi i barhau i gynhyrchu rhaglenni o ansawdd-uwch. I’r perwyl hwn, mae rhaid i’r Lywodraeth Geidwadol anrhydeddu ei addewid etholiad a diogelu’r cyllid. Byddai peidio â gwneud hyn yn arwain i'r trigolion holi pam y dylent ymddiried yn addewid Ceidwadol byth eto.

Mae S4C yn drysor rhyngwladol ac mae rhaid i ni ei amddiffyn. Gyda’r sianel yn ‘dychwelyd adref’ i’n sir mae gennym gyfle unigryw i hwyluso ein heconomi i mewn i’r 21ain ganrif. Ni allwn ganiatáu i doriadau Ceidwadwyr San Steffan peryglu hyn.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.