Jonathan Edwards - Neges Ail-ethol

Ysgrifennaf y neges hon ar drothwy etholiad San Steffan a fydd yn llunio dyfodol Cymru am genhedloedd ac sydd yn gofyn i ni wneud dewis penodol rhwng dau lwybr posibl.

Mae un yn ein harwain ar lwybr o genedlaetholdeb Prydeinig detholedig, cul. Wrth ei graidd mae yna fodel economaidd cymdeithasol o anghyfiawnder cynyddol, tlodi, gwasanaethau cymdeithasol bregus a rheolaeth ddiofal San Steffan dan y Torïaid.

A’r llall yw Cymru yn darganfod ei lle yn y byd, gan adeiladu cymunedau cydlynol yn seiliedig ar weithredoedd blaengar, ble mae ein gwasanaethau cymdeithasol ac economi yn derbyn y buddsoddiad y maent eu hangen ac yn haeddu dan Blaid Cymru.

Mae niwtraliaeth Llafur ar Brexit a’r cwestiwn cenedlaethol Cymreig yn ei pheri’n amhosib iddynt gynnig ffordd ymlaen. Mae Cymru wedi ymddiried yn Llafur ers canrif, a tra bod Llafur yn addo’r byd yn San Steffan, yma yng Nghymru a hwythau mewn grym, mae Llafur wedi goruchwylio tlodi sy’n gwaethygu, amseroedd aros GIG hirach ac wedi gwneud fawr o ddim ymdrech i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Dim ond Plaid Cymru sydd â’r weledigaeth gadarnhaol sydd angen ar Gymru ac yw’r unig blaid sydd yn brwydro’r etholiad hwn i wneud i Gymru gyfrif yn San Steffan.

Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf i wasanaethau a chynrychioli’r cymunedau lle cefais fy ngeni a fy magu dros y blynyddoedd diwethaf yn Nhŷ’r Cyffredin. Trwy gydol yr amser, rwyf wedi seilio fy ngwleidyddiaeth ar y gwerthoedd o uniondeb, gonestrwydd ac egwyddor.

Cefais fy magu yn Nyffryn Aman yn ystod yr 80au ac rwy’n cofio’r niwed a berodd y Llywodraeth Brydeinig yn fwriadol ar ein cymunedau. Roedd ein cymunedau wedi eu rhannu a’n heconomi’n wag, gyda thlodi yn unig yn ei le. Mae fy mhrofiadau o fyw drwy’r amseroedd rhanedig yna wedi cynorthwyo i lunio fy rhagolwg gwleidyddol ac wedi fy argyhoeddi nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru.

Ynghylch Brexit, ryw’n gofidio bod hanes yn ailadrodd ei hun. Rwy’n hynod o bryderus am y posibilrwydd y gellid defnyddio Brexit fel ceffyl Trojan i ryddhau llanast pellach ar economi Cymru, ein cymunedau a’n cenedl.

Fe fyddai Brexit caled yn niweidio ochr cynhyrchu ein heconomi drwy greu rhwystrau rheoliadol ac ariannol rhwng ein cynhyrchwyr a ffermwyr a’u marchnad allforio fwyaf. Wrth wraidd y perygl hwn yw’r realiti syml sef na fydd ffatrïoedd a ffermwyr Cymru byth yn flaenoriaeth i San Steffan.

Mae Brexit yn rhan o gynllun gwleidyddol ehangach sydd yn edrych ar ryddfrydoli gwasanaethau cymdeithasol a gyrru datganoli yn ôl. Wrth i gostau Brexit gynyddu, fe fydd y cytundebau masnachu rhyngwladol y mae Cymru yn ddi-rym i rwystro, yn cael eu defnyddio i breifateiddio ein gwasanaethau cymdeithasol yn bellach a diddymu’r amddiffyniadau haeddiannol.

Mae gwleidyddion Llundain eisoes yn ailddatgan rheolaeth San Steffan dros Gymru gan danseilio ein sefydliadau gwleidyddol cenedlaethol a dwyn pwerau Cymru.

Yr unig ffordd i sicrhau bod Cymru yn cyfrif yn San Steffan yw dychwelyd ASau Plaid Cymru i frwydro ar eich rhan.

Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf i wasanaethu fy nghymunedau genedigol yn Nhŷ’r Cyffredin dros y degawd diwethaf. Rwy’n caru Sir Gaerfyrddin a rhan orau fy swydd yw gweithio gyda grwpiau cymunedol drwy’r etholaeth.

Gofynnaf am eich cefnogaeth yfory er mwyn i mi barhau fel eich hyrwyddwyr yn San Steffan ac i weithio’n galed i gynorthwyo ein cymunedau i wireddu eu huchelgeisiau.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.