Colofn Jonathan yn y Herald - Diffyg Buddsoddi Rheilffyrdd Cymru

railway-header.jpg

Un o fethiannau mwyaf y Wladwriaeth Brydeinig yng nghyd-destun Cymru yw buddsoddi mewn isadeiledd trafnidiaeth.

Mae Cymru yn ôl y ffigurau diweddar yn derbyn tua 1% o fuddsoddiad Prydeinig mewn rheilffyrdd, er bod ein cyfran o’r boblogaeth yn 5%, a’n siâr o gyfran y rhwydwaith llawer yn uwch.

O ganlyniad mae Cymru yn un o ond tair gwlad yn Ewrop lle nad oes un filltir o’r rheilffordd wedi cael ei drydaneiddio - y ddwy arall yw Moldofa ac Albania.

Wythnos yma yn San Steffan fe wnaeth y Llywodraeth Brydeinig cyhoeddi'r llwybr terfynol ar gyfer HS2. Ar yr un adeg cyhoeddodd arbenigwyr yn y diwydiant byddai cost y rheilffordd yn codi i dros £100 biliwn (£100,000,000,000) neu mewn termau mwy dealladwy £400m y filltir. Hwn bydd y rheilffordd fwyaf drud yn y byd mewn hanes ac oherwydd natur ganoledig system trethiant Prydain, mae disgwyl i drigolion Cymru talu amdano.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cytuno i dalu arian teg i Lywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon yn sgil HS2. Yn achos Cymru ni fydd y Trysorlys yn Llundain yn sicrhau iawndal llawn. Byddai cyfran lawn o £100bn gwerth tua £5bn i Gymru - hen ddigon o arian i foderneiddio ein rheilffyrdd ac isadeiledd trafnidiaeth.

Ar yr un adeg mae disgwyl i lywodraeth Prydain ildio ei addewid i drydaneiddio’r rheilffordd yr holl ffordd i Abertawe. Mae’n sefyllfa hollol warthus ac annerbyniol, addewid clir a wnaethpwyd ganddynt.

Canlyniad o beidio â thrydaneiddio’r llinell i Abertawe a defnyddio'r trenau hybrid ar hyd y llinell bydd cynyddu'r amser teithio rhwng Caerdydd ac Abertawe o 5 munud. Fel rhywun sy’n teithio ar hyd y llinell yn gyson, mae’r rhan fwyaf o deithwyr yn cymudo rhwng trefi Cymreig yn hytrach na theithio i Lundain.

Fel mae adroddiad annibynnol KPGM yn datgan, fe fydd HS2 yn sugno cyfoeth allan o economi De Cymru i Lundain a dinasoedd gogledd Lloegr. Felly fe fydd methiant Llywodraeth Prydain i drydaneiddio i Abertawe yn hollol anfaddeuol.

Yr unig ateb synhwyrol i’r sefyllfa yw datganoli cyfrifoldeb dros isadeiledd trafnidiaeth ac yn enwedig Network Rail. Roedd hwn yn argymhelliad clir yn adroddiad y Comisiwn Silk, nes i’r blaid Lafur gweithio gyda’r Ceidwadwyr i’w dileu o ddeddf Cymru.

Y gwirionedd yw nid yw rheolaeth San Steffan yn gweithio i Gymru.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.