AS yn sicrhau lle i bortread Gwynfor Evans yn y Casgliad Celf Senddol

Mae curaduron y Tŷ Cyffredin ar fin prynu ac arddangos portread o’r diweddar Gwynfor Evans ar yr ystâd Seneddol yn dilyn cais gan AS Sir Gar Jonathan Edwards.

Gwynfor Evans oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn dilyn ennill isetholiad hanesyddol Caerfyrddin yn 1966 – daeargryn gwleidyddol oedd yn wraidd i gynrychiolaeth Plaid Cymru yn y Tŷ Cyffredin ac a gyfrannodd at ethol cynrychiolwyr cyntaf yr SNP i’r Tŷ Cyffredin. Roedd ei lwyddiannau wrth gynrychioli Caerfyrddin rhwng 1966-70 a 1974-1979 yn cynnwys sefydlu’r sianel deledu cyfrwng Cymraeg, S4C.

Cyn hanner canmlwyddiant y dathliadau, gwnaeth Jonathan Edwards AS Sir Gar gais i Bwyllgor Ymgynghorol y Llefarydd ar Waith Celf yr Ystâd Seneddol gan argymell y dylai Senedd y DG gydnabod gwaddol Gwynfor Evans.Illustration

Yr wythnos hon derbyniodd Mr Edwards gadarnhad gan Bwyllgor Ymgynghorol y Llefarydd eu bod wedi gorchymyn y Curaduron i archwilio cyfleoedd i ddod o hyd portread parod o Gwynfor Evans.

Bydd y portread a ddewisir yn ymuno a chasgliad sy’n cynnwys portreadau o ffigyrau gwleidyddol megis David Lloyd George, Winston Churchill, Edwards Heath, Tony Benn a James Callaghan ar yr ystâd Seneddol.

Dywedodd Jonathan Edwards AS:

“Rwy’n hapus iawn fod Curaduron y Casgliad Celf Seneddol yn ceisio cael gafael ar bortread yn dilyn fy nghais i sicrhau gwaddol Gwynfor Evans yn y Tŷ Cyffredin.

“Ni fyddai Cymru fel y gwyddom ni hi’n bodoli oni bai am ymdrechion Gwynfor Evans. Mae ei lwyddiannau’n parhau i adleisio o amgylch Sir Gar a Chymru, gydag S4C, y sianel deledu yr heriodd ef Margaret Thatcher i’w sefydlu, yn symud i Gaerfyrddin.

“Roedd yr uchel barch tuag at ymdrechion a llwyddiannau Gwynfor Evans i’w weld yn amlwg yr wythnos diwethaf wrth i dorf fawr ddathlu dadorchuddio plac yng Nghaerfyrddin o fuddugoliaeth isetholiad Gwynfor Evans.

“Bydd y penderfyniad hwn yn sicrhau fod gwaddol Gwynfor Evans a’i bresenoldeb yn parhau yn y Tŷ Cyffredin ble y bu’n ymgyrchu dros hawliau Cymru, gyda’i bortread yn cael ei arddangos wrth ochr rhai o ffigyrau gwleidyddol mawr hanes.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, unwaith yn asiant i Gwynfor Evans ac yn Gadeirydd ymddiriedolaeth er cof am Gwynfor Evans:

“Dyma lwyddiant arbennig gan Jonathan Edwards, yn cynnal llwyddiannau a gwaddol Gwynfor Evans dros Sir Gar a Chymru yn Senedd y DG.

“Cefais y pleser o drefnu dathliadau hanner canmlwyddiant buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans, ac mae’r newyddion hyn yn goron i’r cyfan.

“Bydd y dorf a ddaeth i Gaerfyrddin ar y penwythnos i ddathlu’r fuddugoliaeth yn sicrhau fod gwaddol Gwynfor Evans yn fyw o hyd yng Nghaerfyrddin, tra bod Jonathan Edwards wedi sicrhau cydnabyddiaeth i waith Gwynfor Evans yn Senedd San Steffan.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.