Dylai Cymru fod yn ddiolchgar am fuddsoddiad yn rheilffyrdd Lloegr - dyna oedd y neges gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw wrth iddo ymateb i gwestiwn gan AS Plaid Cymru Jonathan Edwards.
Dywedodd Mr Edwards wrth Ysgrifennydd Cymru o wybod y £145 biliwn mae Llywodraeth Prydain yn buddsoddi ar ddim ond tri phrosiect rheilffordd yn Lloegr, roedd yn “sgandal llwyr” bod y llywodraeth wedi torri ei haddewid i drydaneiddio Prif Linell y Great Western i Abertawe- ymrwymiad a wnaethpwyd gan wleidyddion Torïaid olynol a fyddai ond yn gost o 0.27% (£400m) o’r swm a gaiff ei fuddsoddi yn y tri phrosiect yn Lloegr.
Dywedodd AS Sir Gaerfyrddin fod blaenoriaethau Llywodraeth Prydai wedi cyflwyno’r achos dros ddatganoli cyfrifoldeb dros isadeiledd y rheilffyrdd i Gymru er mwyn i ni elwa o’n cyfran deg o’r buddsoddiad.
Yn ymateb i gwestiwn Mr Edwards, datganodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, y byddai trenau bi-model yn gwella cysylltedd ar gyfer gorllewin Cymru. Hefyd fe ddywedodd Mr Cairns “…mae’r rhwydwaith yng Nghymru yn rhan o rwydwaith y DU… mae wedi bod yn gefnogol o dro Halton, sydd yn Lloegr ond fe fydd yn dod â buddion sylweddol i’r rhwydwaith rhwng gogledd Cymru a Lerpwl.”
Yn siarad ar ôl ei gwestiwn dywedodd AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards:
“Wrth ateb fy nghwestiwn mae’n ymddangos bod Ysgrifennydd Cymru eisiau i ni gredu bod rhoi terfyn ar y trydaneiddio yng Nghaerdydd rhywsut yn fwy buddiol i drigolion gorllewin Cymru na thrydaneiddio’r llinell i Abertawe. Esgeulusodd i sôn roedd y trenau bi-modal bob amser ar y gweill ar gyfer trenau newydd Llundain Paddington sydd yn dod i’r gorllewin o Abertawe.
“Yr hyn a olygir gan yr addewid Torïaidd toredig yw y bydd unrhyw un i’r gorllewin o Gaerdydd yn parhau i oddef cyflymdra araf deg trafnidiaeth gyhoeddus tra bod Lloegr yn ffynnu ar y rheilffordd wedi ei thrydaneiddio gwerth £145 biliwn.
“Yn y cyfamser mae Llywodraeth Prydain yn casáu’r syniad o fuddsoddi ond 0.27% o’r gost honno i wella’r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe ac mae’n disgwyl i ni fod yn ddiolchgar am fuddsoddiad yn Lloegr.
“Mae’n sefyllfa eithaf od i un adran o Lywodraeth Prydain gyhoeddi terfyn i geir wedi eu llenwi â disel tra bod adran arall yn gorfodi i orllewin Cymru gael dim byd ond drafnidiaeth gyhoeddus wedi eu llenwi â disel.
“Caiff Cymru ei hamddifadu o gyfle buddsoddiad gwerth biliynau a allai ganiatáu i’n cenedl gael rhai o’r isadeiledd rheilffordd orau yn y byd. Yn llythrennol ni all Cymru fforddio i barhau fel hyn. Yng ngolwg San Steffan fydd Cymru bod amser yn eilradd i anghenion Lloegr.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter