Rhowch ddylanwad i Gymru dros Brexit- Plaid Cymru

brexit.jpg

Mae AC Plaid Cymru, Adam Price, wedi awgrymu y gallai termau’r DU i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd cael eu cyflwyno i bobl Cymru mewn refferendwm ymgynghorol, a galwodd ei gydweithiwr etholaeth Jonathan Edwards AS am gyfarfod arbennig o ASau Cymreig i drafod dyfodol economi a diwydiant amaethyddol Cymru wedi Brexit.

Yn siarad yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth, dywedodd yr AC lleol Mr Price fod Cymru yn bresennol heb ddylanwad yn y ddadl Brexit i sicrhau fod anghenion economaidd y genedl wedi eu hystyried yn y trafodaethau Brexit.
Wrth gychwyn yr awgrymiad, dywedodd Mr Price y byddai rhaid ystyried y manylion ar gyfer refferendwm ymgynghorol yn ofalus, ond awgrymodd y gellir cynnwys dewis amlddewis ynghylch p’un ai i gadw aelodaeth o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, yn ogystal â gadael y DU heb unrhyw fargen yn ei le.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y syniad yn ‘diddorol’ yn ystod ei ddatganiad ar ddyfodol polisi masnach Cymreig ddydd Mawrth.
Dywedodd Adam Price fod Plaid Cymru eisiau i’r pleidleiswyr lleisio eu barn am y math o berthynas bydd gan y DU gyda’r UE wedi Brexit, ac fe fydd ei blaid yn archwilio’r syniad dros yr wythnosau nesaf.
Mewn cyfarfod o ASau Cymreig yn Uwch Bwyllgor Cymreig San Steffan ddydd Mercher- y tro cyntaf i’r pwyllgor cwrdd ers Chwefror 2016- galwodd yr AS lleol Jonathan Edwards am gyfarfod arbennig o’r ASau Cymreig i drafod yn benodol am ddyfodol y diwydiant amaethyddol, cymunedau gwledig a’r economi Cymreig wedi Brexit.
Yn siarad o’r Cynulliad, dywedodd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Adam Price:
“Mae gan Ogledd Iwerddon ei ffin â’r Weriniaeth.  Mae gan yr Alban annibyniaeth.  Pa ddylanwad sydd gan Gymru i sicrhau y caiff ei buddion orau eu clywed, ac yn bwysicach fyth, eu hystyried yn y trafodaethau Brexit?
“Fe allai refferendwm ymgynghorol fod yn gyfle i bobl Cymru lleisio eu barn ynghylch p’un ai ydynt am osod rhwystrau i fasnachu gyda’r cyfandir Ewropeaidd, neu p’un ai hoffent barhau i gael y fasnach a thollau esmwyth a fwynheir yn bresennol gan fusnesau ac allforwyr Cymreig.
“Mae Plaid Cymru yn glir, gyda dros 90% o’n hallforion bwyd a diod yn mynd i wledydd yn yr UE, mae er ein budd economaidd i aros yn aelodau o’r farchnad sengl a’r undeb tollau.
“Rydym am i’r pleidleiswyr lleisio eu barn ynglŷn â pha berthynas maent eisiau gyda’r UE ar ôl i ni adael, ac i San Steffan barchu’r farn honno.
“Mae modd i refferendwm ymgynghorol wneud hynny, ac i wneud Cymru’n berthnasol yn y broses Brexit.  Byddwn yn archwilio hyn yn fwy trylwyr ac yn darparu fwy o wybodaeth dros yr wythnosau nesaf.”
Yn siarad yn San Steffan, dywedodd Jonathan Edwards AS bod y peryglon sy’n wynebu Cymru o ganlyniad i Brexit caled Llywodraeth San Steffan yn llym, a rhybuddiodd os caiff y wlad ei gorfodi allan o’r Undeb Tollau a’r Farchnad Sengl, byddai busnesau, cynhyrchwyr a ffermwyr Cymreig yn colli eu trefniadau masnachu rhydd gyda mwy na 80 o wledydd ar draws y byd, ac fe fydd ein marchnad fewnol ni yn agored i gynnyrch mewnforio rhad.
Yn siarad ar ôl ei galwad am gyfarfod arbennig o ASau Cymreig, dywedodd Jonathan Edwards:
“Fe fydd honiad dall San Steffan fod rhaid i bob gwlad yn y DU adael yr Undeb Tollau a’r Farchnad Sengl wedi Brexit yn enwog fel gweithred o hunan-niwed difrifol.
“Caiff ein heconomi ei yrru gan ein hallforion ac mae ein statws fel aelod o’r Undeb Tollau a’r Farchnad Sengl yn caniatáu i’n allforwyr i fasnachu’n rhydd gyda mwy na 80 o wledydd ledled y byd.  Ni fydd unrhyw fargen masnachu rydd cystal â’r telerau a gynigiwyd gan ein haelodaeth bresennol.
“Fe fydd Cymru wledig yn dioddef yn arbennig oni bai ein bod yn cadw ein gallu i werthu ein cynhyrchion amaethyddol i’n partneriaid masnachu am ddim, ac oni bai ein bod yn bendant yn diystyru gwneud ein marchnad fewnol yn agored i gynhyrchion bwyd masgynyrchedig rhad wedi eu mewnforio o’r UDA neu allforwyr eraill.
“Amaethyddiaeth yw canolbwynt yr economi gwledig- gan gefnogi strydoedd mawr gwledig, yr economi twristiaeth a busnesau bach ledled y wlad.
“Gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru heb rym i weithredu ar fasnach ryngwladol, mae’n ddifrifol o bwysig bod yr argyfwng go iawn yr ydym yn anelu ato yn cael ei ddadlau yn San Steffan a bod ASau Cymreig yn ei orfodi ar yr agenda.”

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.