Plaid Cymru'n gwrthod Brexit eithafol y Torïaid

Passage_of_a_Bill.jpg
Er mwyn i Fesur dod yn Ddeddf Seneddol mae'n mynd drwy 11 o gamau yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi cyn y deuddegfed a cham olaf o dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Cam 2 oedd pleidlais Ddydd Mawrth yn Nhŷ’r Cyffredin, a enwyd yn addas yr Ail Ddarlleniad.

Ar y cam hwn caiff Aelodau Seneddol eu cyfle cyntaf i drafod a dadlau prif egwyddorion y Mesur. Felly ddydd Mawrth fe ddadleuodd yr ASau egwyddorion Mesur Llywodraeth y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd yn bleidlais bwysig ar hyd y daith i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid oedd yn bleidlais ynghylch p’un ai dylid derbyn canlyniad y refferendwm. Roedd ynglŷn â chymeradwyo fersiwn eithafol y Torïaid o Brexit.

Er gwaethaf yr hysteria a nodi’r rheiny oedd yn gwrthwynebu'r Mesur fel "bradwyr" a "gelynion democratiaeth", mae gan y Mesur cryn dipyn o ffordd i fynd, a bydd angen llawer mwy o bleidleisiau cyn bod y Llywodraeth yn gallu hysbysu’r UE yn ffurfiol o benderfyniad y DU i adael yr undeb.

Fel rydym yn ei wneud gyda phob Mesur sy'n effeithio ar Gymru, bydd Plaid Cymru cyflwyno cyfres o welliannau mewn ymgais i hyrwyddo, amddiffyn ac ymestyn hawliau'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn ein cenedl. Mae ein gwelliannau'n ceisio cynnal yr addewidion a wnaed gan yr ymgyrch 'Gadael', ac er mwyn sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu hystyried drwy gydol y broses gyfan. Mae rhai o'n gwelliannau yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Iechyd Cymru yn derbyn £ 17.5 miliwn yr wythnos - cyfran ein poblogaeth o'r £350m wythnosol a addawyd;
  • Ymrwymiad gan y Llywodraeth i barhau i ariannu Cymru i'r lefel a ddarparwyd gan yr UE;
  • Ymrwymiad i'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn cael dweud eu dweud yn y broses; ynghyd a
  • Sicrhau'r fargen masnachu orau ar gyfer ffermwyr a busnesau Cymru trwy'r farchnad sengl.

Hyd yn hyn nad yw’r safbwyntiau rhesymol yma wedi cael eu derbyn gan y Llywodraeth. Yn wir, mae ei phapur ffurfiol yn awgrymu gellir pwerau wedi 'dychwelyd' o Frwsel gael eu rheoli yn gyfan gwbl o Lundain yn y dyfodol.

Pleidleisiodd y bobl i adael yr UE. Nid oeddent yn pleidleisio i roi toriad cyflog i’w hunain neu i wneud eu hunain yn ddi-waith. Ond heb wrthwynebiad, dyna beth fydd y Brexit creulon yma yn ei olygu.

I mi a fy nghydweithwyr Plaid Cymru, nid oes angen i Brexit olygu ynysiad. Nid oes rhaid iddo rwygo ein cysylltiadau economaidd neu dorri llif yr arian ar gyfer datblygu economaidd. Caiff economi Cymru ei gyrru’n drwm gan allforion. Byddai rhwystro’r rhydwelïau economaidd hanfodol yn ymwybodol yn weithred o hunan-niweidio. Fodd bynnag, os bydd Llywodraeth y DU yn rhoi sicrwydd i ni y bydd yn anrhydeddu'r addewidion a wnaed yn ystod ymgyrch y refferendwm, bydd Cymru yn cadw masnach rydd gyda’r farchnad sengl a’r undeb tollau, ac ni fydd yn colli ceiniog o ariannu, mi fydd ASau Plaid Cymru yn cefnogi Mesur y Llywodraeth.

Nid yw’r Mesur yn ymwneud â chanlyniad y refferendwm, ond sut mae'r Torïaid yn ei dehongli gyda chanlyniadau eithafol ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Chymru.

Byddwn yn esgeuluso fy nyletswydd pe bawn yn cefnogi cynigion Llywodraeth y DU fel y maent ar hyn o bryd. Mae Plaid Cymru yn ceisio newid y Mesur er lles gorau Sir Gaerfyrddin a Chymru, gyda dadleuon rhesymol a diffuant, i amddiffyn swyddi a bywoliaeth y rhai cefais fy ethol i gynrychioli.

Fe wnâi gadael i'r Torïaid a’r Blaid Llafur i esbonio pam ei bod yn bod yn barod i gefnogi cynigion yn ddiamod a fyddai, fel y mae, yn berygl o niwed ofnadwy i economi Cymru. Mi fydd Plaid Cymru yn y cyfamser, bob amser yn rhoi lles cenedlaethol Cymru yn gyntaf.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.