Tŷ’r Cyffredin yn cefnogi cynnig Plaid Cymru ar gyfer Dinasyddiaeth Ewropeaidd

brexit.jpg

Mae Tŷ’r Cyffredin wedi cefnogi cynnig gan Blaid Cymru i ganiatáu i ddinasyddion Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon gadw eu hunaniaeth a’u dinasyddiaeth Ewropeaidd ar ôl gadael yr UE.

Canolbwyntiodd dadl Plaid Cymru ar ddadl gyfreithiol sydd, dan gyfraith ryngwladol ac Ewropeaidd, yn datgan y byddai’n anghyfreithlon i dynnu dinasyddiaeth Ewropeaidd oddi ar unigolion yn erbyn eu hewyllys, ac fe alwasant ar y Prif Weinidog i gynnwys yn amcanion ei thrafodaethau gyda’r UE hawl i ddinasyddion y DU gadw eu Dinasyddiaeth Ewropeaidd wedi i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae dinasyddiaeth Ewropeaidd yn rhoi’r hawl i ni deithio, byw, astudio a gweithio unrhyw le yn yr UE ac amrywiaeth eang o hawliau eraill dan gyfraith yr UE ynghylch iechyd, addysg, gwaith a nawdd cymdeithasol.
Cyn y ddadl, sicrhaodd Plaid Cymru gefnogaeth gan gyd-arweinwyr y gwrthbleidiau, Caroline Lucas AS, Ian Blackford AS a Syr Vince Cable AS, yn ogystal ag un deg pedwar o unigolion a sefydliadau eraill megis, Open Britain, Best for Britain a phapur newydd New European.  Fe’i cefnogir hefyd gan y cyfreithiwr amlwg, Jolyon Maugham CF, a’r arbenigwr ar gyfraith Ewropeaidd, Yr Athro. Volker Roeben.
Mae’r blaid yn cynnig caniatáu i ddinasyddion Ewropeaidd presennol, gan gynnwys holl ddinasyddion y DU, i gadw eu dinasyddiaeth Ewropeaidd ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i roi yn y Cytundeb Ymadael, model “Dinasyddiaeth Ewropeaidd Gysylltiol” er mwyn caniatáu i’r rheiny nad ydynt yn ddinasyddion yn barod- megis plant heb eu geni, i ddod yn ddinasyddion Ewropeaidd wedi Brexit.
Mae Cydlynydd Brexit Senedd Ewrop, Guy Verhofstadt ASE wedi cefnogi’r syniad, gan drydar: “nid yw dinasyddiaeth yr UE yn cymryd lle ein dinasyddiaeth genedlaethol, mae’n ychwanegol ato.”
Dywedodd yr AS Plaid Cymru leol Jonathan Edwards:
“Mae llawer o’r ddadlau wedi’r refferendwm wedi bod o amgylch effaith economaidd Brexit.  Does dim amheuaeth yn fy meddwl mai’r ffordd orau i amddiffyn yr economi Cymreig yw aros yn y farchnad sengl a’r undeb tollau, a dyna fy safiad ers y diwrnod cyntaf.  Fodd bynnag nid yw’r mater ynghylch hawliau dinasyddiaeth Undeb Ewropeaidd deiliaid y DU wedi cael yr ystyriaeth y mae’n haeddu. 
“Yn ei haraith wythnos ddiwethaf, methodd y Prif Weinidog i ddarparu unrhyw eglurder mawr ynghylch prif bryderon yr ASau a’r cyhoedd mewn cysylltiad â pholisi Brexit Llywodraeth y DU.  Fodd bynnag, er gwaethaf ei pholisi Brexit caled, ildiodd y byddai’n ceisio trafod statws aelodaeth gysylltiol y DU gyda sawl asiantaeth yn yr UE.  Os yw hynny’n wir, beth am gymhwyso’r un egwyddor i ddinasyddiaeth?
“Rydym yn cynnig, fel rhan o’r trafodaethau, fod y Llywodraeth Brydeinig yn cyflwyno’r achos fod y nyni sydd am gadw ein hawliau cyfredol, yn gwneud hynny, tra bod modd i’r rheiny sydd am ymwrthod â’u hawliau i wneud hynny os fyddent yn dymuno.
“Os bod y Llywodraeth Brydeinig o ddifrif am wella clwyfau’r refferendwm, byddwn yn dadlau y dylent fwrw ymlaen â menter o’r fath yn gryf, oherwydd gellir uno pawb ym mhob rhan o’r wladwriaeth Brydeinig.
“Mae Tŷ’r Cyffredin wedi dadlau a mynegi ei farn o blaid cynnig Plaid Cymru i ganiatáu i’n dinasyddion gadw eu Dinasyddiaeth Ewropeaidd wedi Brexit.
“Byddai’n ddehongliad rhyfedd iawn o ‘gymryd rheolaeth’ os fyddai’r Llywodraeth Brydeinig bellach yn anwybyddu ewyllys y Senedd.  Mae angen i Theresa May a’i Chabinet Brexit wrando ar y neges honno.”
DIWEDD
_________________________________
Nodiadau i’r Golygyddion:
Gweler isod yr unigolion a sefydliadau sy’n cefnogi’r ymgyrch ar gyfer Dinasyddiaeth UE parhaus:
Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru
Liz Saville Roberts AS, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan
Jill Evans ASE, Plaid Cymru
Ian Blackford AS, Arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban
Syr Vince Cable AS, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Caroline Lucas AS
Guy Verhofstadt, Cydlynydd Brexit, Senedd yr UE
Jolyon Maugham CF
Yr Athro Volker Roeben, Prifysgol Dundee
Dr Pedro Telles, Uwch ddarlithydd y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe
Open Britain
Papur newydd The New European
Best for Britain
New Europeans
Wales for Europe
Our Future Our Choice
UK to Stay
Another Europe is Possible
European Movement

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.