Economi Cymru wedi ei niweidio gan reilffordd ‘Lloegr a Chymru’

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Jonathan Edwards AS, fod “HS2 yn sarhad i’r trethdalwr Cymreig” yn dilyn y cyhoeddiad ei fod wedi cael caniatâd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Jonathan Edwards AS, fod “HS2 yn sarhad i’r trethdalwr Cymreig” yn dilyn y cyhoeddiad ei fod wedi cael caniatâd.

Ni fydd un darn o drac HS2 yn cyrraedd Cymru, fodd bynnag mae Llywodraeth San Steffan yn gwrthod rhoi unrhyw gyllid i Gymru i wneud yn iawn am y gost o HS2 yn Lloegr, yn ôl y drefn arferol, gan honni ei fod yn gynllun ‘Lloegr a Chymru’.


Yn nodweddiadol, mae gwariant yn Lloegr yn arwain at godiad yn yr arian a rhoddir i Lywodraeth Cymru fel rhan o’r trefniant datganoli- a elwir yn arian dilynol Barnett. Mae’r mesur sydd yn seiliedig ar boblogaeth yn golygu caiff Cymru tua 5% o’r arian a werir gan San Steffan yn Lloegr.

Mi fydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gweld cynnydd llawn yn y cyllid seiliedig ar boblogaeth oherwydd gwariant San Steffan ar HS2; fodd bynnag, gwrthododd Llywodraeth San Steffan roi'r un cynnydd i Lywodraeth Cymru drwy fecanwaith arian dilynol Barnett.

Mae costau’r prosiect wedi bron treblu, o £32.2bn i £106bn, hyd yn oed cyn i’r gwaith gychwyn o ddifrif i adeiladu’r rheilffordd.

Mae arbenigwyr trafnidiaeth wedi rhagweld y bydd HS2 yn debygol o leihau twf mewn cyflogaeth yng Nghymru o 21,000 swydd rhwng 2007 a 2040. Byddai hyn o ganlyniad i fusnesau’n symud i ardaloedd sy’n agosach at orsafoedd HS2 y tu allan i Lundain, yn hytrach na dewis Cymru, a fydd dan anfantais gystadleuol.

Wedi’r cyhoeddiad, dywedodd Jonathan Edwards AS:

“Mae Plaid Cymru wedi dweud ers amser fod HS2 yn sarhad i drethdalwyr Cymru, a gyda’r costau yn cynyddu, dim ond gwaethygu y gwnaiff pethau.

“Tra bod Llywodraeth San Steffan yn cynllunio pontydd i Ogledd Iwerddon a rheilffyrdd gwerth £100 biliwn yn Lloegr, mae cymudwyr Cymru yn sownd ar drenau gorlawn, hwyr sydd yn anaddas ar gyfer y diben.
“Nid oes hyd yn oed llinell reilffordd yng Nghymru sy’n cysylltu gogledd â de ein gwlad, heb sôn am reilffordd gyflym.

“Mae Cymru’n colli biliynau o bunnoedd o gyllid sy’n ddyledus i ni - does dim modd i Lywodraeth San Steffan ddadlau mai prosiect ‘Lloegr a Chymru’ yw hwn, pan nad oes modfedd o’r trac yn ein gwlad.

“Y tro diwethaf i mi edrych ar fap, roedd Llundain, Birmingham, Manceinion a Leeds i gyd yn Lloegr.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.