Jonathan Edwards yn galw am gefnogaeth gan Lywodraeth Prydain mewn achosion o lifogydd difrifol

Yn ystod Cwestiwn Brys yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (6ed Chwefror) fe gododd Jonathan Edwards, llefarydd Plaid Cymru dros faterion Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, pryderon y gallai Llywodraeth San Steffan rhoi dyfodol darlledu cyhoeddus Cymru mewn perygl- yn yr iaith Gymraeg a Saesneg.

Fe ddaeth sylwadau Mr Edwards ar ôl i Ysgrifennydd San Steffan dros Ddiwylliant, Barwnes Nicky Morgan, ddweud bod y drwydded deledu fwyfwy wedi dyddio, gan gymharu’r darlledwr cyhoeddus â Blockbuster- y gadwyn fideo adwerthol sydd wedi dod i ben.

Mae rhan fwyaf o gyllid y darlledwr iaith Gymraeg S4C yn dod o’r drwydded deledu. Yn ogystal y BBC yw’r ffynhonnell newyddion Cymraeg fwyaf yn ddwy iaith genedlaethol Cymru.

Yn gynharach yr wythnos hon fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan cynlluniau i ddad-griminaleiddio achosion o osgoi talu’r drwydded deledu, a fydd yn ôl y BBC yn costio o leiaf £200m iddynt mewn cyllid.

Yn ystod y Cwestiwn Brys, gofynnodd Jonathan Edwards AS:

“Mae S4C yn bennaf wedi ei ariannu gan y drwydded deledu a’r BBC ei hun yw’r prif ddarparwr o newyddion darlledu yn ddwy iaith genedlaethol Cymru.

“Pa sicrwydd all y Gweinidog rhoi y bydd y gwasanaethau darlledu cyhoeddus hanfodol yma yn cael eu hariannu’n ddigonol yn bell i’r dyfodol.”

Ymatebodd y Gweinidog drwy ddweud y bydd cyllid S4C yn cael ei ystyried fel rhan o adolygiad yn 2022.

Yn dilyn y cwestiwn, fe ddywedodd Mr Edwards:

“Fe fyddai newyddion wedi ei ganolbwyntio ar Gymru yn annhebygol o oroesi pe byddai Llywodraeth San Steffan yn symud y drwydded deledu i wasanaeth tanysgrifiad.

“Rydym wedi brwydro’n hir ac yn galed ar gyfer darlledu yn ein ddwy iaith genedlaethol, ni allwn adael i San Steffan peryglu hynny. Mae rhaid archwilio pob dewis i sicrhau bod dyfodol ein darlledwr cenedlaethol yn ddiogel- ac mae hynny’n cynnwys datganoli darlledu.

“Mae angen i Lywodraeth San Steffan troedio’n ofalus oherwydd gallai’r trywydd y maen nhw’n anelu am gael ei weld fel ymosodiad ideolegol ar ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.