Croesawu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Mae ymgyrch Plaid Cymru i ddiogeli dros 19,000 o drigolion Sir Gaerfyrddin rhag toriadau i’w cefnogaeth treth cyngor yn parhau i fod yn llwyddiannus ar ôl i Lywodraeth Cymru gadarnhau'r wythnos hon y byddai’n ymestyn y gefnogaeth am flwyddyn arall.

Datganolwyd y cyfrifoldeb dros Fudd-dal Treth Cyngor i Lywodraeth Cymru o San Steffan ym Mawrth 2012 ond gyda thoriad o 10 y cant i’r nawdd. Yn wreiddiol fe wrthododd Llywodraeth Cymru Llafur i gymryd y camau angenrheidiol ac ad-dalu’r diffyg o £23 miliwn, felly yn gadael bron 330,000 o gartrefi Cymreig yn y sefyllfa o orfod talu mwy o dreth cyngor.

Enillodd Aelod Cynulliad Sir Gaerfyrddin Rhodri Glyn Thomas Gwobr ‘Ymgyrchydd y Flwyddyn’ ITV ar ôl ymgyrch hir 9 mis i orfodi’r llywodraeth Llafur i wneud tro-pedol er mwyn amddiffyn y derbynwyr. Arweiniodd ei waith at yr Aelodau Cynulliad yn cael eu galw yn ôl i’r Senedd dros egwyl y Nadolig i basio mesur brys i gyflwyno’r hyn a elwir bellach yn Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Housing_Image.jpg

Heddiw fe groesawodd olynydd Mr Thomas, Adam Price AC, yr estyniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a datganodd bod gwaith cynrychiolwyr Plaid Cymru yn parhau i gael effaith parhaus a chadarnhaol ar y derbynwyr pedair blynedd yn ddiweddarach.

Ychwanegodd Mr Price ei fod yn amser i Lywodraeth Cymru gyflwyno trefniadau hir dymor ar gyfer diwygiad “beiddgar a radical” i’r system treth cyngor.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Adam Price:

“Pedair blynedd ar ôl i Rhodri Glyn Thomas atal y Llywodraeth Llafur rhag pasio toriadau Torïaid ymlaen at dderbynwyr budd-dal treth cyngor, mae ei ymgyrch yn parhau i gael effaith parhaus a chadarnhaol.

“Rwy’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i estyn y cynllun gostyngiadau am flwyddyn arall. Mi fydd hyn yn cael ei groesawu yn arbennig gan y degau o filoedd o gartrefi sy’n dibynnu ar gefnogaeth o’r fath.

“Ond a dweud hynny, mae’n amser i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynigion i ddiwygio’r system treth cyngor unwaith ac am byth. Ni ddylai’r derbynwyr ac yn wir yr awdurdodau lleol sydd yn gyfrifol am gasglu’r arian fod mewn sefyllfa pob deuddeg mis lle maent yn aros i weld os daw gefnogaeth.

“Mae’n amser am ddiwygiad beiddgar a radical o’r dreth fwyaf atchweliadol ar yr ynysoedd yma, gwaddol o gyfnod Thatcher, y dreth cyngor hynod annheg sydd yn codi pedair gwaith cymaint fel cyfran o gyfoeth ar y tlotaf ag ar y cyfoethocaf."

DIWEDD


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.