Gwleidyddion lleol yn gofyn am sicrwydd ynghylch olynydd y cynllun Cyflymu Cymru

ethernet-header.jpg

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi cynllun olynol i ddarparu band eang cyflym iawn ar draws Cymru, mae’r gwleidyddion lleol Adam Price AC a Jonathan Edwards AS yn gofyn am ymrwymiadau ac amodau penodol i uwchraddio cymunedau lleol.

Cwblhawyd cynllun Cyflymu Cymru a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru ar 31ain o Ragfyr 2017.  Mae’r cynllun, meddai BT, wedi darparu band eang cyflym iawn i bron 700,000 o eiddo.

Dywedodd y cynrychiolwyr Plaid Cymru mewn llythyr at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Seilwaith Digidol, bod angen ymrwymiadau penodol ar gyfer cymunedau gwledig mewn unrhyw gytundeb mae Llywodraeth Cymru yn gwobrwyo yn y dyfodol.

Dyfynnodd y ddau wleidydd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ystadegau o adroddiad ‘Cysylltu’r Gwledydd’ gan Ofcom, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, sydd yn datgan nad oes gan bron 1 o 3 eiddo mynediad i fand eang cyflym iawn, gyda bron hanner o’r holl eiddo yn derbyn cyflymder dan 10Mbps.

Yn eu llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet fe rannodd Adam Price a Jonathan Edwards profiadau eu hetholwyr sydd, meddent, yn “rhwystredig” a “siomedig” oherwydd na ddigwyddwyd yr uwchraddio pan yr addawyd.  At hynny maent yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pam mae rhaid i’r trigolion edrych ar geblau ffibr cyflym iawn a gyflwynwyd i nifer o bentrefi ond yna wedi eu gadael yn droellog ger y cabinet yn hytrach na’n gysylltiedig â’r eiddo.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Adam Price:

“Mae bellach gennym sefyllfa lle na chafodd ystod eang o Sir Gaerfyrddin eu dal yng nghynllun Cyflymu Cymru, mae’r cynllun bellach wedi gorffen, ac rydym yn amau y gellir fod 6 i 12 mis cyn bod Llywodraeth Cymru yn barod i gyflwyno cynllun olynol.

“Wrth gydnabod y gwelliannau a wnaethpwyd, rydym angen gweld y gosodiad o amodau cadarn yng nghytundeb nesaf Llywodraeth Cymru sydd yn blaenoriaethu cymunedau gwledig ac yn rhwystro unrhyw gwmnïau rhag torri eu haddewid i gwsmeriaid. Ni allwn gael sefyllfa lle mae trigolion yn cael dyddiadau ar gyfer uwchraddio ond i weld y dyddiadau yn cael eu symud dro ar ôl tro.

"Mae cynrychiolwyr BT ac Openreach wedi cytuno'n garedig i gwrdd â Jonathan a minnau, ac rwy'n gobeithio deall o'u safbwynt nhw sut y gall y cynllun olynol ddysgu gwersi o’r ymgyrch Cyflymu Cymru.

"Band eang yw'r pedwerydd gwasanaeth. Rhaid blaenoriaethu cymunedau gwledig i’w galluogi i ddianc o'r lôn cysylltedd araf unwaith ac am byth."

Ychwanegodd Jonathan Edwards AS:

"Roeddwn wedi cwrdd ag un etholwr wythnos ddiwethaf sydd â chebl ffibr optig cyflym newydd sbon yn mynd heibio ei dŷ i ddarparu band eang i'w gymdogion, ond dywedwyd wrtho nad oes gallu ar y llinell i gysylltu ei eiddo. Ni allaf i yn fy myw deall pam y gosodwyd llinell annigonol o'r fath os nad oedd yn darparu ar gyfer pob eiddo yn y clwstwr bach o dai.

"Er mwyn rhoi halen ar friw, mae gan lawer o etholwyr Adam a minnau ceblau ffeibr yn droellog ger y cabinetau gwyrdd yn eu pentrefi tra eu bod yn ceisio deall pam nad yw eu heiddo wedi eu cysylltu cyn diwedd y cynllun.

"Rydym angen amryw o ymrwymiadau yn y cynllun band eang nesaf i sicrhau na fydd cymunedau gwledig yn cael eu siomi.  Byddwn hyd yn oed yn mynd mor bell ag awgrymu bod y cytundeb yn cynnwys cosbau am addewidion cysylltu toredig.

"Mae Cysylltu Sir Gaerfyrddin yn hollbwysig i'n heconomi a'n bywydau bob dydd. Rydym am i Lywodraeth Cymru symud cyn gynted ag y mae’n bosib er mwyn sicrhau bod y cynllun olynol ar y gweill."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.