Mae’r Ysgrifennydd Brexit unwaith eto wedi methu â sicrhau llais i Gymru yn y fargen Brexit

brexit.jpg

Mae Llywodraeth Prydain unwaith eto wedi methu â sicrhau bod gan Gymru lais yng nghyswllt perthynas y DU gydag Ewrop yn y dyfodol - dyna oedd neges Jonathan Edwards pan heriodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r UE yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon.

Mewn cwestiynau seneddol ddydd Iau, atgoffodd Jonathan Edwards yr ASau y bydd yr holl Seneddau cenedlaethol a rhanbarthol o fewn aelod-wladwriaethau'r UE yn cael eu hymgynghori ar y fargen ymadael derfynol, a bod chwe mis wedi eu dyrannu ar gyfer y broses honno.

Gofynnodd Mr Edwards i'r Ysgrifennydd Brexit, David Davis “er mwyn sicrhau bod perthynas y dyfodol yn gweithio ar gyfer pob rhan o'r wladwriaeth Brydeinig" ydyw'n cytuno y dylid "cael cymeradwyaeth ffurfiol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon cyn taro unrhyw fargen derfynol- neu a fydd yn achos o "San Steffan yn gwybod orau"?

Mewn ymateb, methodd Mr Davis eto i sicrhau llais i Gymru yn y fargen, gan nodi "cytundeb yw hwn i'r Deyrnas Unedig."

Yn gynharach yn yr wythnos, gofynnodd Mr Edwards i’r Prif Weinidog, Theresa May, i ystyried "enciliad tactegol" ac i seilio ei safbwynt ar statws parhaol o fewn yr undeb tollau a'r farchnad sengl "yn hytrach na chyflymu tuag at dynged ansicr sydd ar draul swyddi ac yn gwasgu safonau byw ymhellach."

Dywedodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, y byddai Plaid Cymru yn parhau i ymladd er mwyn sicrhau bod llais dinasyddion Cymru yn cael ei glywed. Dwedodd:

"Fel rwyf i a’m cydweithwyr Plaid Cymru eisoes wedi dweud: mae Llywodraeth Prydain yn defnyddio'r broses Brexit fel modd o ganoli pŵer yn San Steffan, gan dreiglo'r cynnydd a wnaethom tuag at hunanlywodraeth er mwyn adfer rheol San Steffan.

"Yn ei ateb i mi'r wythnos hon, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Brexit unwaith eto methu â sicrhau rôl ffurfiol i’n cynrychiolwyr etholedig yn Senedd Cymru o ran dylanwadu ar y cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn arbennig o bryderus pan ystyriwn y gwahaniaethau economaidd dwys rhwng Cymru a Lloegr.

"Mae sefyllfa Llywodraeth Prydain hyd yn oed yn fwy sarhaus pan ystyriwn y bydd llywodraethau datganoledig o fewn aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd yn cael cyfle i ddylanwadu ac i bob pwrpas feto’r fargen. Mae angen i lywodraeth Prydain ddweud pam ei fod yn gwrthod rhoi'r un hawl i lywodraethau datganoledig yma.

"Mae'n hollbwysig bod gan Gymru lais. Nid wyf i a'm cydweithwyr Plaid Cymru yn credu bod San Steffan yn gwybod orau, a byddwn yn parhau i ymladd i sicrhau bod hawl ein dinasyddion yn cael ei glywed."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.