‘Cau banciau yn broses, nid digwyddiad’

local-bank.jpg

Yr wythnos hon roedd dyfodol gwasanaethau bancio ar yr agenda yn y Senedd wrth i ASau dadlau’r effeithiau o gau banciau ar draws y DU.

Roedd yr AS lleol Jonathan Edwards ymysg y llond llaw o aelodau a arhosodd yn Llundain ddydd Iau i drafod dyfodol gwasanaethau bancio.
Dywedodd wrth ei gyd ASau o’r holl fanciau masnachol sydd yn weithredol o fewn y Wladwriaeth Brydeinig, o’i amcanrifau ef, byddai bellach dim ond tri banc llawn amser yn ei etholaeth, i weithredu Dyffrynnoedd Aman, Gwendraeth, Tywi a Teifi.
Yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd AS Plaid Cymru “nad yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy” gan gyfeirio at y colled o 53% o ganghennau banc ar draws y DU dros y 20 mlynedd diwethaf.  “Oni bai y cawn ail-drefnu sylfaenol o’n model bancio” dywedodd Mr Edwards “byddwn yn colli 100% o’r rhain mewn chwinciad”.
Gan gynnig ateb, amlinellodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr tri llinyn y dylai Llywodraeth y DU ystyried er mwyn cadw’r gwasanaethau bancio.
Yn siarad yn y ddadl, dywedodd Jonathan Edwards AS:
“Yn gyntaf oll, rydym angen Deddf Ail-fuddsoddi Cymunedau yn yr un modd a’r UDA i sicrhau fod rhaid i fanciau masnachol buddsoddi eu hadnoddau helaeth yn ddaearyddol ac yn gyfiawn.  Mae’n hynod o ofidus bod rhaid i ni orfodi banciau i roi terfyn ar ganolbwyntio ar fuddsoddiadau sydd yn ddiwerth yn gymdeithasol yn Ninas Llundain, ond os nad ydym yn gwneud hynny, byddwn ond yn gweld mwyfwy o anghyfiawnderau cyfoeth daearyddol a sector yn yr economi.
“Yn ail, rydym angen amddiffyn a gwella gwasanaethau ariannol y Swyddfa Bost, er mwyn i swyddfeydd bost gweithredu fel darparwyr hollgynhwysol a chanolbwyntiau bancio cymunedol.  Er mwyn i hynny dwyn ffrwyth, mae rhaid i ni sicrhau y caiff obsesiwn Llywodraethau Prydeinig olynol gydag ad-drefnu’r rhwydwaith ei wrthsefyll.
“Yn drydedd, o wybod fod y Llywodraeth Brydeinig yn berchen 73% o RBS- sef yn ei dro, yn berchen NatWest- does bosib mai un dewis fyddai newid y model busnes a defnyddio’r rhwydwaith parod.  Mae’n ymddangos fodd bynnag, mai blaenoriaeth Trysorlys y DU yw cefnogi cau banciau a pharatoi RBS i werthu i fuddsoddwyr y Ddinas, ond fe fyddai hynny’n cyfle anferth a gollwyd o wybod fod ni, y cyhoedd, yn berchen cyfran mawr o’r banc.
“Dewis arall, a gyflwynwyd gan fy nghydweithiwr etholaeth, Adam Price yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, byddai i Lywodraeth Cymru camu i’r bwlch drwy ddatblygu rhwydwaith dan frand banc cyhoeddus Cymreig.
“Y canlyniad o wneud dim yw y byddwn yn amlygu trethdalwyr i bailout bancio arall, ac fe fydd yr anghydraddoldebau cyfoeth daearyddol gwarthus o fewn y wladwriaeth Brydeinig yn parhau.”

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.